Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyrbau

cyrbau

Yr oedd ganddo ffordd arbennig o lifio'r cyrbau o bren ynn, hwn oedd defnydd y cyrbau bob amser.

Yna cychwynnid ar y gwaith o dorri tyllau yn y cyrbau i dderbyn y camogau; hwn oedd y gwaith anoddaf o ddigon, rhaid oedd tyllu fel bod yr oledd yn iawn a'r camogau'n mynd i mewn yn rhwydd i'r tyllau yn y cyrbau.

Yna, gydag arf arbennig fe dynnai'r gadwyn y ddwy gamog i'r man iawn fel ag i fynd i mewn i'r tyllau yn y cyrbau.

Yr oedd yn waith gofalus, a phe byddai'r tyllau ychydig iawn o'u lle anodd oedd cael y camogau i mewn i'r cyrbau.