Unig bwrpas y tai cyrddau a godwyd yn yr ardal ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd bod yn fannau cyfarfod i ddynion gael clywed Gair Duw yn cael ei ddehongli.
Os plaen a syml oedd tai cyrddau'r cyfnod, felly hefyd oedd amryw o'r pregethwyr.
Testun dirmyg oedd y Crynwyr gan mwyaf, ond yn y blynyddoedd ar ôl pasio Deddf y Tai Cyrddau edrychid arnynt gydag ofn hefyd.
Erbyn diwedd y ganrif, fodd bynnag, wedi i'r diwydianwyr a'r cyfoethogion ddod i'r sêt fawr, adeiladau pur wahanol i'r tai cyrddau moel a phlaen hyn a godwyd ar lawr y dyffryn, a'u pensaerni%aeth Gothig yn adlewyrchu byd gwell y gymdeithas ddiwydiannol newydd.
Cymerwn ran amlwg yn y cyrddau hynny, dechrau'r cyfarfodydd, annerch a hyd yn oed pregethu.
Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.
Yr oeddwn i wedi ceisio perswadio Cyngor Sir Gaerfyrddin o'r angen hwn am flynyddoedd, ac wedi llwyddo o'r diwedd i'w cael i wneud arbrawf yn y pwyllgor addysg, mewn un o'r cyrddau lle y digwyddem fod yn trafod cwestiwn ysgolion cyfun dwyieithog.