Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyrhaeddai

cyrhaeddai

Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Yn y cyfamser cyrhaeddai cardiau cyfarch o wahanol leoedd gan y staff a oedd ar eu gwyliau.

Wedi rowlo'r llafn ddwywaith neu dair, cyrhaeddai'r hyd o ryw chwe throedfedd, ac yna tatlai'r rowlwr y llafn at y dwblwr.

Am ugain mlynedd olaf ei bywyd yr oeddwn i'n un o'i chyfeillion: âi fy ngwraig a minnau i'w gweld yn aml, bu'n cysgu yn ein tŷ ni, ysgrifennai lythyron atom; yn ddi-feth bob Nadolig anfonai bunt i'n merch ni, ac os byddai Elin yn hwy nag arfer yn ysgrifennu ati i ddiolch iddi am y bunt honno, cyrhaeddai llythyr oddi wrth Kate Roberts i holi a oedd y bunt wedi cyrraedd.

Blydi Saeson, rhefrai bob tro y cyrhaeddai'r postman heb lythyr.