Er mai yn y blynyddoedd 1909 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.
Yn 1990 y cyrhaeddodd Hywel Llewelyn Cwmderi a hynny pan gafodd swydd fel athro yn yr ysgol gynradd gyda Beth James.
Dim ond yn hwyr y cyrhaeddodd dylanwad yr Oleuedigaeth a'r ymgais i greu gwladwriaeth fodern ar linellau Ewropeaidd.
Cyrhaeddodd Harri y Bedol pan oedd y boneddigion ar fedr eistedd wrth y bwrdd.
Cyrhaeddodd adref ac edrych ar ei phedair merch fach.
Cyrhaeddodd ugeiniau o'r llestri hyn heno, a chafodd rhai ohonynt eu dewis (?) i'w golchi a'u sychu erbyn y bore.
Bwriad y llinell yw darparu gwasanaeth gwybodaeth a thocynnau rhadffôn sy'n gyfeillgar a llawn gwybodaeth. Cyrhaeddodd rhaglen Addysg a Chymuned y gerddorfa 3,700 o gyfranogwyr trwy 13 o brosiectau outreach trwy Gymru.
Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.
Ond o'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, cyrhaeddodd y môr y castell a gor-lenwi'r ffos mewn amrantiad.
Cyrhaeddodd y ffactor dyngedfennol yn nhemtiad yr anialwch, lle y bu i'w ufudd-dod ddadwneud anufudd-dod Adda.
O'r diwedd cyrhaeddodd ei dþ.
Yng Nghrist cyrhaeddodd trefn aberthol yr hen oruchwyliaeth ei huchafbwynt.
Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.
cyrhaeddodd hi'r fflat tua chwech o'r gloch.
Ar ôl brecwast, cyrhaeddodd y brenin a'i ddau ddyn.
Cyrhaeddodd y gog eisoes a gelwir haidd wedi ei hau'n ddiweddar, ac felly'n gildio'n wael, yn haid y gog.
Cyrhaeddodd Alan Shearer Wlad Belg ddoe ar ôl cael sgan ar ei ben glin.
Ni allai'n ei fyw gofio ble'r oedd e na sut y cyrhaeddodd yno, ond wrth godi ar ei eistedd ac edrych o'i gwmpas gwelodd y bwthyn twt unwaith yn rhagor.
I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.
Ychwanegodd mai ond ar y Sadwrn cynt y cyrhaeddodd Wyn y wlad.
Cyrhaeddodd Phil faint dyn yn gynnar, ac yr oedd y cyfuniad o ieuenctid, cryfder corff a deallusrwydd meddwl yn gynhysgaeth angenrheidiol iddo gyflawni gwaith mor llafurus.
Cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd rhyw fath o anterth ym 1910.
Cyrhaeddodd Kath Cwmderi yn 1993 pan symudodd o Lanarthur i fyw ar Stad y Mynach.
Allwn i ddim dyfalu sut y cyrhaeddodd rhai ohonynt eu ffau anghysbell, heb sôn am allu uniaethu gyda'r arswyd a oedd wedi eu cymell i fentro.
O'r diwedd cyrhaeddodd y coridor cul a arweiniai at y drws.
Yn 1996 cyrhaeddodd Nia, merch Llew, ac achosodd Nia helyntion di-ri iddo wrth iddi yn gynta redeg i ffwrdd o gartre ac yna cael ei hun yn feichiog gyda phlentyn Hywel Llewelyn.
O'r diwedd cyrhaeddodd John â golwg sobr arno.
Cyrhaeddodd trên llythyron gyffiniau Llanelli am ddeng munud wedi naw y nos ond rhwystrwyd y groesfan yno gan fil a hanner o bobl, gan gynnwys llanciau a oedd wedi dryllio ffenestri'r blwch arwyddo gerllaw.
Ar hyn, cyrhaeddodd y bws y garej ym mhen uchaf y pentref.
Cyrhaeddodd yr albwm ddwy siart yr un pryd, y siart bop a'r siart glasurol.
Cyrhaeddodd i ddechrau yn 1989 gan wneud cryn argraff ar y pentre a'i drigolion.
Cyrhaeddodd De Affrica y nod yn hawdd heb golli ond dwy wiced.
Cyrhaeddodd ychydig cyn i'r lori reis gyrraedd gyda'n cinio.
Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.
Wedyn ar ôl hedfan o Gran Canaria i Madrid a gorfod newid awyrennau ac ar ôl taith naw awr, cyrhaeddodd y chwaraewyr faes awyr Manceinion.
Yn 1999 y cyrhaeddodd Darren y cwm a hynny yn sgil ei ffrind gorau, Mark Jones.
Yn 1999 y cyrhaeddodd Beti Gwmderi a hynny i helpu Dyff a Kath i ddathlu ennill y loteri.
ychydig funudau wedi iddynt gyrraedd y bedol cyrhaeddodd llong huw, ac ychydig y tu ôl iddi longau ffred a gethin yn taro 'n ei gilydd wrth agosau, ac un wil yn rhuthro tuag atynt atynt fi sy 'n ennill !
Cyrhaeddodd y gwesty ar ben y clogwyni ymhen hanner awr.
Cyrhaeddodd y farn negyddol ei phenllanw yn nisgrifiad RM Jones ohono fel 'Elfed ein rhyddiaith', er nad aed mor bell a'i alw'n 'llofrudd y nofel' chwaith!
Cyrhaeddodd y stori am yr ymosodiad ar dþ yn Solingen y penawdau, yn yr Almaen yn ogystal â thramor, oherwydd i'r troseddwyr gyrraedd eu nod, a lladd pump o bobl.
Yn 1988 y cyrhaeddodd Derek Jones Gwmderi ac ar y pryd 'roedd yn gweithio fel gwas i Mrs Mac.
Un diwrnod cyrhaeddodd milwr newydd o'r enw John Lamb, wersyll Owain o Gymru.
Cyrhaeddodd ei fywyd o ufudd-dod ei uchafbwynt yn yr hunanymroddiad llwyr a wnaed ar bren er mwyn diddymu anufudd-dod Adda mewn cyswllt â phren.
Cyrhaeddodd yr erydiad hwn benllanw - neu isafbwynt! - newydd yr wythnos diwethaf pan gyhoeddodd gwyddonwyr nad yw moron yn fwyd llesol i gwningod.
Cyrhaeddodd lai na deuddydd cyn imi ymadael am Wlad Groeg, ac yma yn Athen a Mati Zeugly y darllenais hi.
Yna cyrhaeddodd Dolgarrog cyn nos a chael "gwydriad neu dau yno, cyn mynd yn ei flaen i'r Royal Oak a'i gorffen hi yn Y edol yn Nhalybont.
Un nos Sadwrn cyrhaeddodd adref yn hwyr o'i waith a dechreuodd baratoi ar gyfer y Sul trwy ddechrau glanhau ei unig bâr o esgidiau.
Ar ddiwedd y newyddion y cyrhaeddodd Anna Cartwright fuarth Maes Môr.
Cyrhaeddodd Pencampwyr yr Adran Gynta, Fulham, gant o bwyntiau neithiwr, drwy guro Wolves 2 - 0.
Yn 1982 y cyrhaeddodd Dic Ashurst Gwmderi a bu'n gweithio am gyfnod fel gwas ar fferm Colin a Beti Griffith.
Yr un pryd cyrhaeddodd y Sacsoniaid prydgolau o ogledd Ewrop ein glannau, gan ddwyn a lladd a llosgi ar eu ffordd.
Dihangodd Idris yn ei hyd ac ymhen hir a hwyr cyrhaeddodd dro arall yn y cwm.
Y funud honno cyrhaeddodd Fford Escort gwyrdd gola yr iard yn ara deg fel car cnebrwng ac wedi ei fwytho fel cath.
Cyrhaeddodd Alun y fferm ac agorodd y drws a rhoddodd y ffon yn ei hôl yn y gornel wrth y dreser, y gornel lle y bu ar hyd y blynyddoedd.
Ond y funud y cyrhaeddodd cododd honno ei chlustia a throdd ei phen-ôl, a oedd wedi bod yn ffocws pawb ers wsnosa, tuag at wal ac edrych ar Ifor.
Cyrhaeddodd Ieuan ei hanner canfed cap yn ei wythfed tymor rhyngwladol.
Ond, fel newyddiadurwr wrth reddf, y digwyddiadau mawr a'u hoblygiadau a aeth â bryd John Griffiths o'r funud y cyrhaeddodd Efrog Newydd .
Er mai yn y bymthegfed ganrif a'r unfed ar bymtheg y cyrhaeddodd y proses hwn ei anterth, yr oedd eisoes i'w ganfod ar waith yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Cyrhaeddodd Meic Pierce y pentre ond gwnaeth ei hun yn amhoblogaidd yn syth wrth iddo ddefnyddio gwybodaeth Sabrina Harries am y post er mwyn dwyn oddi yno.
Cyrhaeddodd Jim a minnau y Pwll Defaid fel yr oedd yn nosi.
Fel gweddill ei deulu agos, cyrhaeddodd Mark Gwmderi yn 1993 ac er fod gweddill y gymuned yn ei gasáu ceisiodd Hywel Llewelyn weld y gorau yn Mark ond talodd Mark ei garedigrwydd yn ôl drwy losgi car Hywel a dwyn ei draethawd ymchwil.
Ac nid heb achos oherwydd ar ei orau cyrhaeddodd safon uchel ac fe'n bendithiwyd ag emynau a thonau i ysbrydoli canu da.
Yn 1976 cyrhaeddodd Jac Daniels y Cwm a chwympodd Sabrina mewn cariad.