Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyrsiau

cyrsiau

Roedd y rhesymau am hyn yn gymhleth ac amrywiol iawn ond un rheswm diamheuol oedd y ffaith nad oedd y cyrsiau a arweiniai at yr arholiadau traddodiadol mewn ieithoedd modern yn atyniadol i'r mwyafrif.

Trwy gydol yr amser yr oedd aleodau'r Gymdeithas ledled Cymru yn gweithio'n galed o ddydd i ddydd yn trefnu adloniant Cymraeg, yn cynnal cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr ac yn hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu hardaloedd eu hunain.

Ymysg yr hyfforddiant allanol cafwyd cyrsiau ar ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, gwerthuso, cynllunio gofal cymdeithasol, codi arian, cadw llyfrau ac ar oblygiadau'r Ddeddf Plant.

Erbyn hyn y mae Glynllifon yn ganolfan ar gyfer cyrsiau llawn amser mewn amaethyddiaeth a cheir dau gwrs preswyl llawn amser.

Y maent yn ariannu cyrsiau/colegau per capita, hynny yw, yn rhoi arian ar gyfer pob myfyriwr/wraig sydd wedi cofrestru.

GWYBODAETH GYFFREDINOL Ffurf y Sesiynau Seilir y cyrsiau ar seminarau/ gweithdai gyda'r pwyslais ar ddysgu ymarferol, a disgwylir i bob myfyriwr chwarae rhan weithgar yn y sesiynau hyn.

Ymysg ei gweithgareddau mae'r Gymdeithas yn trefnu cyrsiau dawns a hyfforddi dawns, cynhyrchu a chyhoeddi dawnsiau a cherddoriaeth ar gyfer dawnswyr a cherddorion, cyhoeddi cylchgrawn blynyddol a rhoi ffocws i ddawnsio gwerin Cymru.

Colegau Addysg Bellach, Awdurdodau Addysg Leol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr sy'n gyfrifol am y cyrsiau darnynol, tra bo'n sefydliadau addysg uwch yn darparu cyrsiau dwys a chyrsiau uwch.

[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.

Teimlwyd bod angen ymchwil i honiadau athrawon fod newid agwedd yn digwydd ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau â chyfathrebu'n ganolog iddynt.

Mynner trefn yn ein cyrsiau.

Llew' drwy'r blynyddoedd ym myd llyfrau plant, o'r dyddiau cynnar hynny (ar ddechrau'r pumdegau) pan gâi cyrsiau i awduron eu cynnal yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, at ennill Gradd MA Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant.

Rhannent bopeth â'i gilydd, cyrsiau ysgol a choleg, siomedigaethau, hwyl, gobeithion, rhannent freuddwydion a chyfrinachau, a hyd yn oed gariadon.

* Cyngor Cyllido Addysg Bellach sy'n darparu cyrsiau mewn colegau chweched dosbarth, colegau trydyddol a cholegau addysg bellach; darparu cymorth i sefydliadau addysg gymunedol gan gynnwys Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) ac i gyrff gwirfoddol addysg a gwaith ieuenctid gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifainc;

Cynhaliwyd cyrsiau cymorth cyntaf, defnyddio cyfrifiaduron, i wirfoddolwyr ac ar y Ddeddf Elusennau.

Mae hyn, yn amlwg, yn hybu cystadleuaeth rhwng colegau ac yn gorfodi'r colegau i gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael myfyrwyr (sydd yn golygu arian) a llenwi eu cyrsiau, yn hytrach na chyd-weithio er mwyn darparu'r addysg orau bosib.

Dilynir y cyrsiau dwys cychwynnol gan gyrsiau uwch, boed yn ddwys neu'n cyfarfod unwaith yr wythnos.

Cyn y gallwn iawn brisio'r dylanwadau hyn, ac yn arbennig dylanwad trwm yr academi neu'r coleg Cymreig, rhaid edrych yn fanylach ar eu safonau, eu hansawdd a'u cyrsiau.

ychwanegodd na fydd pobl o angenrheidrwydd yn mynychu'r ganolfan i ddilyn cyrsiau.

* Cyngor Cyllido Addysg Uwch sy'n darparu cyrsiau mewn athrofeydd, colegau (ac ysgolion) hyfforddi athrawon a phrifysgolion (gan gynnwys adrannau efrydiau allanol);

Dylai'r cyrsiau fod wedi'u cwblhau erbyn mis Mehefin.

Rhennir y cyrsiau yn fras yn ddau fath sef:

cyrsiau darnynol: dosbarthiadau sy'n cyfarfod unwaith yr wythnos ac sy'n parhau fel arfer dros gyfnod o dair blynedd;

Fe fydd y Dr William Griffith eisoes wedi manylu ar y cyrsiau addysg a gynigid yng Nghaergrawnt yr adeg honno, fel mai cwbl afraid ydyw i mi wneud hynny hefyd.

Ar wahân i Adran y Gymraeg a'r Athro J. E. Daniel yn y Gyfadran Ddiwinyddiaeth, Saesneg oedd y darlithoedd a'r cyrsiau.

'Mae Coleg Menai yn arbenigwyr mewn creu cyrsiau ar reoli,' meddai Dr Eleri Wyn Lewis.

Gofynnwyd am arian i'r Cyngor Ysgolion i ymgymryd â'r gwaith a sefydlwyd prosiect ymchwil bychan i weld a oedd yna newid agwedd tuag at ddysgu iaith dramor ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau nodau graddedig.

Rhannu gwybodaeth am CYD mewn cyrsiau i ddysgwyr yn Ne Cymru.

Gellid wedyn sicrhau bod cyrsiau addysg Gymraeg yn darparu'n briodol ar eu cyfer.

Fel cyrsiau eraill y Coleg bydd y cyrsiau diploma hefyd yn rhan o'r cynlluniau arfarnu rheolaidd a drefnir gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd pan roddir ystyriaeth i ddangosyddion ystadegol (ceisiadau, derbyniadau, canlyniadau, gwastraff etc.), adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, staffio ac adnoddau.

Cyrsiau

O'r dechrau datblygwyd cyrsiau, gyda nawdd Cyngor Cyllido Cymru, a oedd yn defnyddio sgiliau a methodoleg dysgu pynciol fel cyd-destun i ddatblygu iaith.

(i) Dylid cynnig cymwysterau, a gydnabyddid gan y cyhoedd, ar gyfer cyrsiau byrrach na'r cwrs pum mlynedd traddodiadol.

Gwahaniaethedd - drwy addasu'r cyrsiau a'r modd y'u dysgir yn ôl gallu, angen a dyhead y dysgwr.

Gellir gwneud hynny'n hwylus i'n pwrpas ni trwy edrych ar y math addysg a gawsant hwy cyn cymryd at eu gwaith fel athrawon a gellir edrych ar y math cyrsiau a baratoid ganddynt ar gyfer eu myfyrwyr.

cyrsiau dwys: dosbarthiadau sy'n cyfarfod o leiaf dair gwaith yr wythnos ac am hyd at ddeuddeg awr yr wythnos mewn rhai achosion.

Roedd tri hyfforddai hanner ffordd trwy eu cyrsiau ar hyn o bryd, a bod y rheiny'n mynd rhagddynt yn dda.

Gwybodaeth am y coleg, addysg bellach, addysg uwch, y gwasanaethau a'r cyrsiau mae'r coleg yn cynnig.