Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysegr

cysegr

Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:

Dim ond ar ôl oriau o aros, o obeithio ac o syrffedu y bydd drysau'r cysegr sancteiddiolaf yn agor, ac y daw'r arweinwyr allan i geisio argyhoeddi cynulleidfa o siniciaid proffesiynol fod rhywbeth o dragwyddol bwys wedi ei gyflawni.

Delwedd arall a berthynai i waith yr offeiriad, ond wedi ei gosod o ongl hollol wahanol, yw honno am Grist fel yr Archoffeiriad mawr a gyflawnodd ddefodau puredigaeth fel y daeth hi'n bosibl i bechaduriaid fynd i mewn i gysegr presenoldeb Duw, yn union fel y caniateid i'r Archoffeiriad fynd drwy len y cysegr i bresenoldeb Duw (Heb.

ac am y cysegr ble bu ambell hen bererin yn gorffwyso ar ei ffordd i'r nefol fyd?

Ond nis gwahoddwyd i'r cysegr, a safodd yno'n hir ac ansicr gan syllu'n ofnus ar y gair 'Golygydd' o'i flaen.