Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysegredig

cysegredig

Cofiaf hefyd y pleser a gafodd o fynychu Eglwys y Nyfer yn rheolaidd a'r cof cysegredig o dderbyn Bedydd Esgob yno yng nghwmni merched y Plas.

Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith.

Oedd dada yn un o ddeg o blant a chollodd ei fam pan oedd ond plentyn bychan, ond yn wahanol i blentyn "Y Bwthyn Bach To Gwellt", cafodd dad cyfrifol, gofalus i chadarn i'w magu i gyd efo'i gylydd a'u codi o dan do o safon cysegredig.

Anwybyddwyd realiti oherwydd nad oedd yn cyd-fynd a'r hyn a oedd yn ysgrifenedig ar bapur - sef yng ngweithiau cysegredig Marx a Lenin.

Aeth y dyddiau mwyaf cysegredig, megis y Groglith a'r Pasg, hyd yn oed, yn ddyddiau gwaith a chwarae.

I'r Eifftiaid roedd yn anifail cysegredig.

Codai egwyddor 'reserve' yn naturiol allan o astudiaeth y Tractariaid o weithiau'r Tadau Eglwysig, sef cadw'n ôl y gwirionedd mwyaf cysegredig a dirgelion y Ffydd hyd nes y byddai'r 'dysgwyr' yn y Ffydd Gristnogol wedi gorffen eu cwrs o hyfforddiant ac wedi'u dangos eu hunain yn gymwys i'w derbyn.