Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysgod

cysgod

Dewislen Steil Ar y dechrau bydd arnoch eisiau defnyddio pob math o ffontiau a steil a bydd CYSGOD a thanlinellu bras mewn Ffontiau Blodeuog yn britho eich gwaith.

Pwy ydy ..." "Gan bwyll rŵan, was," meddai Henri, gan syllu ar y map o'i flaen i guddio'r cysgod o wên oedd ar ei wyneb.

Cododd y gwynt ar ôl i ni adael cysgod y tir.

Rhedodd tri neu bedwar o ddynion o'r cysgod ac wedi diffodd y peiriannau aeth y peilat o'i sedd ac agor y drws a neidio allan.

Ond, na þ 'r un arwydd o lawenydd na siom, dim cysgod gwên na gwg þ dim byd cynt, yn ystod y chwarae, nac wedyn.

Heddiw, bydd cysgod iselder yn treiddio trwy ddrysau caeedig a moethus ein profiadau maestrefol Cymreig.

"Y peth cynta weles i oedd cysgod dwy goes yn hongian mor llonydd â phendil cloc wedi stopo.

Gallai weld cysgod du yng nghornel yr ystafell yn agos at droed y gwely.

Safai Jean Marcel yn y cysgod yn gwylio'r ddau filwr.

Fo oedd y drwg yn y caws yn ddieithriad a'r cysgod cyson ar fy mywyd yn y cyfnod ifanc hwnnw yn nechrau ein hail flwyddyn yn yr ysgol uwchradd.

Nid yw o bwys os bydd achosydd yr ymwybyddiaeth hon yn sefyll yn grwn o'm blaen ar lun dyn; ni bydd ond fel cysgod nes i'r ddau John arall ymddangos gerbron llygad fy meddwl.

Ni sylwasai Gemp arno'n codi fel cysgod o fôn y llwyn drain, y peth cyntaf a wybu, meddid, oedd gafael Vatilan am ei wddf.

Byddwn yn y cysgod o hyn i ddiwedd y daith, yn wir ychydig iawn o haul a wêl yr ochr yma i'r dyffryn i lawr i Nant Peris dros fisoedd y gaeaf.

Os dach chi'n hoff o fyffio yna Supamyff oedd y grwp nath sesiwn i nir wythnos diwethaf efor caneuon Paid Gadael Fi Lawr, Cysgod yng Ngolaur Tan a Stryd Womanby.

Roedd hi'n goeden fawr, yn goeden gref, a'i changhennau praff yn gynnig cysgod llydan rhag gwres yr haul neu gawod o law.

'Hwyl,' sibrydodd Huw yn dawel fach wrth wylio cysgod ei frawd ar y pared.

Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.

Mae ei ymddygiad dirwestol a chyfiawn yn gosod Robert Pugh y Trawscoed - ei gymydog agosaf - yn y cysgod gydol y nofel o ran synnwyr cyfiawnder a phob dim arall.

Roedd cysgod ansicrwydd yn bygwth hawlio'i wedd.

Yna, symudodd fel cysgod yn ôl tua'r ffenestr a syllu ar yr harbwr oddi tani.

Felly mae'r arwyddion yn eglur ar ddiwedd Cysgod y Cryman.

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Wrth ymadael â'r orsaf, wedi dychwelyd adref o'r coleg ar gychwyn Cysgod y Cryman, mae'n taro'i docyn yn llaw'r gorsaf-feistr fel un sy'n 'gynefin â gweision'.

Pa warth a allai fod yn yr 'eurgan' a ganai'i phrifardd gorwych iddi mewn iawn bryd nad oedd cysgod ohono i'w weld, yn ôl portread Crwys, yn ei gorffennol?

Ar ddiwedd Cysgod y Cryman awgryma Harri mai ar rent gan Edward Vaughan y bydd y fferm ac erbyn Yn ôl i Leifior awgryma Marged fod gan y gweithwyr fel perchenogion 'siâr yn y ffarm ei hun' (t.

Daeth cysgod o wên ar wefusau Morwen wrth feddwl am ei nain yn gorfod dechrau dysgu byw gyda dyn ddydd a nos a hithau'n drigain oed.

Yr oedd cysgod y rhyfel yn drwm arnom.

Pan oedd cysgod barn arnom, daeth y Gwaredwr a dioddef y gosb trosom ni.

Does yna ddim cadernid na dim cysgod yn perthyn i frwyn.

Ar ddiwrnod heulog clir, chwaraewch gemau cysgod gyda'ch ffrind.

Oddi ar i'r pyllau gau 'roedd y tipiau'n gornwydydd ar hyd y cymoedd, ac ymhen misoedd 'roedd cysgod un ohonynt, uwch pentref Aberfan, wedi ei daflu ar draws yr holl fyd.

Yr oedd realiti y byd i ddod yr un mor gryf iddo â realiti y byd oedd yn byw ynddo wrth ysgrifennu - yn wir, yr oedd yn gryfach, gan mai cysgod yn unig oedd y byd hwn.

Mae mynd un cam ymhellach, a defnyddio diffiniad swyddogol y Llywodraeth o 'ysgol fach' fel un â llai na 90 o blant, yn gadael cysgod dros ddyfodol cannoedd o ysgolion.

Fedrwch chi ddim torri'ch cysgod i ffwrdd na'i wnio'n ol yn ei ond medrwch gael llawer o hwyl yn chwarae gydag ef.

Bernard o'r enw Nana, yn cau'r ffenestr yn glep ac yn torri cysgod Peter Pan ymaith.