Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysoni

cysoni

Anodd oedd cysoni fy nau argraff cyntaf am y wlad drallodus hon.

Er cysoni'r defnydd o dermau yn y drafodaeth sy'n dilyn, yn yr adroddiad hwn crynhoir y broses i ddau gam sylfaenol:

Os cedwir llyfrau costio ar wahân, y mae'n bwysig eu bod yn cael eu cysoni â'r llyfrau ariannol; oni wneir hyn, y mae yna berygl i gamgymeriadau lithro i mewn.

I hwyluso'r cysoni, gellir trefnu'r cyfrifon ariannol yn y fath fodd fel bod gwybodaeth ar gael sy'n ddefnyddiol wrth gymharu un set o lyfrau â'r llall; er enghraifft, gellir rhannu cyflogau yn y lejer yn gyflogau uniongyrchol a rhai anuniongyrchol, y cyfrif pryniannau yn nwyddau crai a nwyddau eraill, a'r treuliau yn rhai'r ffatri, y swyddfa, a'r adran farchnata.

Y mae ceisio cysoni'r ffaith hon a'r teimlad o falchter cenedlaethol, hyd yn oed a hunaniaeth genedlaethol, yn orchwyl poenus o anodd.

Cysoni

Yn sgîl y trafodaethau a ddigwyddodd rhwng Y Swyddfa Gymreig, PDAG a'r asiantau cynhyrchu cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd aeth heibio, gofynnwyd i PDAG geisio cysoni'r system o gyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau fod grantiau cyhoeddi deunyddiau addysgiadol yn cael eu dyrannu ar seiliau tebyg i bawb ac yn gyson â threfniadaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg.