Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.
Fe'm cysurais fy hun fy mod wrth fy modd â'r bywyd hwn; wrth gwrs 'mod i, felly y buodd hi erioed.