Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysuro

cysuro

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

Digon o chwiorydd gwan i'w cynnal a'u cysuro!

(cysuro fy hun ydw i rwan!!) Yr ymateb cyflawnaf a gafwyd yn ddiweddar oedd hwnnw i hanes yr hen long HMS Conway.

Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.

Wedi dychryn mae e Aeth Mali, ei fam, i'r Infirmary neithiwr.' Ni bu ganddi erioed awydd na dawn i siarad â phlant bach lleiaf y Teulu, ond nawr roedd Amser ei hun fel pe bai wedi sefyll o'i chwmpas a chlywodd ei llais ei hun yn cysuro'r un bach: 'Mae popeth yn iawn, Robin, bydd dy fam yn dod 'nôl atat cyn bo hir.

Ei gwaith hi bellach oedd cysuro teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd gan filwyr y sgwadiau marwolaeth.

Er gwaethaf stormydd, ar daith bywyd fe ddaw pelydrau o heulwen a chariad o hyd i'n goleuo a'n cysuro.