Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysurus

cysurus

'Nei di mo ngadel i i fynd i'r hen gollege ene, a 'nei di, Rhys?' ' Atebodd Dafydd drosof, ac yr oeddwn yn ddiolchgar iddo ``Mi gewch siarad am hynny eto, Miss Hughes,'' ac wedi ychwanegu ychydig o eiriau cysurus, aeth Dafydd ymaith.

Gan fod y cast mor niferus, ymddangosai'r lle yn eithaf llawn, ac yr oedd hynny yn fy ngwneud yn fwy cysurus.

Mae'r tren ei hunan fel fersiwn rad o'r Orient Express, sedd a gwely cul i bawb, a'r rheiny'n ddigon cysurus.

Prin ei bod hi'n dlawd, gan iddi briodi'n ŵr cyntaf uchelwr pur gefnog o Lanfair Talhaearn o'r enw William Davies (neu Wiliam Dafydd Llwyd) ac i hwnnw ei gadael mewn amgylchiadau digon cysurus tra byddai.

Fe fydda i'n ddigon cysurus yn cysgu ar y soffa.

Roedd rhywbeth yn gyfarwydd ynddo hefyd, rhywbeth cysurus; ond eto, nid oedd am ei glywed.

Oedd gwely glan a lle cysurus i'w gael bob amser dros noson i dorri ar y daith.

O ganlyniad yr oedd yn ofynnol i amryw o bregethwyr gadw fferm neu dyddyn, a gwyddys fod William Evans yr efengylwr o Gwmllynfell yn un o'r amaethwyr mwyaf cysurus yn y gymdogaeth.

Er mai ffermwr diafael ydyw, mae'n ddigon cysurus ei fyd, ac yn gallu fforddio ystyried ymddeol hyd yn oed.

Buasai hynny wedi bod dipyn yn fwy cysurus heb os - peidio mynd.

Mae Canolfan Pentre Ifan yn glyd, cysurus, hardd hyd yn oed, a moethus.

'Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio.

Byd bach cysurus Cymraeg i'r breintiedig rai.

Pam roedd Owain ei hun yn barod i adael ei deulu a'i gartref cysurus yn Sycharth i fentro byw fel herwr a gwrthryfelwr?

Mi fedrwch adeiladu tŷ da lle bynnag y mynnoch chi a chael bywyd cysurus heb orfod gweithio os mai dyna'ch dewis.