Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysylltu

cysylltu

Baladeulyn oedd hen enw'r afon sy'n cysylltu Llyn Padarn a Llyn Peris.

Nid oedd y Rheilffyrdd Prydeinig wedi cysylltu â'r Cyngor hwn ynglŷn â'r mater.

Yn ogystal gellir cysylltu ar e-bost.

Ni esbonnir y rhesymeg sy'n cysylltu gollwng gwaed â symud pechodau.

Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.

Mae yn aelod o'r Eglwys Bentecostaidd ym Mangor ac wedi cael ei derbyn fel aelod o'r ymgyrch Operation Mobilisation Love Europe sydd yn cysylltu ac yn cydweithio gyda'r Eglwysi yn Rwsia, ac yn gobeithio y bydd hyn yn gymorth iddi i gyrraedd ei nod o fod yn genhades.

Cyfeiriwyd eisoes at ei safle fel athro Hebraeg a Chanon, ac yn barod 'roedd pobl wedi cysylltu'r mudiad gyda'i enw, er mai llysenw ydoedd ar y dechrau cyntaf.

Yn achos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r fytholeg gynhaliol yn neilltuol o gref gan bod blynyddoedd gwawrddydd y mudiad yn cydddigwydd â ffrwydriad diwylliant ieuenctid y chwedegau, cyfnod euraid yng nghof yr aelodau cynnar sy'n cysylltu genedigaeth y Gymdeithas â rhyddid a menter eu hieuenctid eu hunain ond sydd bellach wedi ymgolli ym mharchusrwydd canol oed.

Yng ngweddill y bennod, canolbwyntio ar y fframwaith disgrifiadol sy'n diddori yr awdur ei hun, sed Gramadeg Systemig, a ddatblygwyd gan M A K Halliday dan ddylanwad syniadaeth ei gyn- athro, J R Firth, am lefelau dadansoddi, sef Sylwedd, maes Seineg a Graffeg; Ffurf, maes hyn gan Rynglefelau: Ffonoleg ac Orgraff, y rhynglefel sy'n cysylltu Sylwedd a Ffurf, a Chyd-destun (neu Ystyr), sy'n cysylltu Ffurf a Sefyllfa.

Maent yn edrych ar: a) sut y mae rhaniadau rhwng grwpiau iaith yn cysylltu efo rhaniad dosbarth, ac efo cysylltiadau economaidd a gwleidyddol o fewn y fframwaith wladwriaethol b) y prosesau o rym sy'n bodoli o fewn y gymuned, a sut y mae cysylltiadau grym yn cael eu hadgynhyrchu c) natur y gwrthdaro sy'n digwydd o fewn cymunedau o ganlyniad i'r cysylltiadau grym sy'n bodoli.

Baladeulyn hefyd oedd enw'r afonydd a oedd yn cysylltu Llynnoedd Nantlle yn Nyffryn Nantlle ac y sydd o hyd yn cysylltu Llynnau Mymbyr ger Capel Curig.

Wedi cael ychydig o fwyd, aeth Peter i geisio cysylltu â'i gyfeillion, tra bu Larry a minnau'n crwydro Sgwâr Wensylas.

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Roedd ei theyrngarwch yn mynnu ei bod yn cysylltu â hwy hefyd, felly ffoniodd hi Megan Harris, ei chymdoges, a phwyso arni i alw arnynt.

Trosi gem (Ness Arnold) sy'n cysylltu geiriau a lluniau

Mae Cyfreithiwr y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau eraill ar yr arfordir, ac mae'r Aelod Seneddol yn gefnogol i gael deddfwriaeth.

Er ffonio a ffonio, does dal dim ateb ar ôl awr o geisio cysylltu ag arwyr yr iaith.

Nid yr un patrwm a geir bob tro wrth gwrs oherwydd bod y llythrennau'n wahanol; y modd y byddwn ni'n trin y llythrennau ac yn cysylltu'r geiriau sy'n penderfynu'r patrwm.

Oni bai am y bechgyn a'r draffordd a'r bobl yn hawlio pob ffôn fe fyddai hi wedi cysylltu ag o ymhell cyn hyn.

Un llinell telex a dwy llinell ffôn oedd yn cysylltu Kampuchea â'r byd y tu allan bryd hynny, ac roedd hi'n hanfodol cael cydweithrediad y gweithredydd yn Moscow.

Bwriad y Comisiwn Ffilm yw hyrwyddo'r defnydd o adnoddau a lleoliadau Canolbarth Cymru ar gyfer cynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu ac hysbysebion. Y tudalen flaen yn unig sydd yn y gymraeg, ond mae 'na luniau lleoliadau a'r cyfle i cysylltu a'r Comisiwn ar-lein.

Y peth gorau bob tro yw cysylltu â'r meddyg yn ddigon buan.

Arhosodd Mary yn fflat Fred y noson honno wedyn, a bu'n cysylltu ag un o'i chwiorydd yn gofyn i honno chwilio am dŷ iddynt a holi am waith i Fred naill ai yn Birmingham neu yn Daventry.

Yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen golyga: Yna ceir dyfyniad buddiol sy'n cysylltu'r term ag athrawiaeth gymdeithasol y Catholigion: Mae'r dyfyniad yn glir.

Os bydd rhaid gwneud hynny, bydd rhaid cysylltu â chynrychiolwyr pob un o'r Chwe Gwlad, nid Undebau Cymru ac Iwerddon yn unig, i weld a ellir ail-drefnu'r gêm mewn tymor sy eisoes yn orlawn.

Gyda ffilmiau B am gymeriadau mytholegol, Groegaidd a Beiblaidd yr ydym yn cysylltu Reeves a gwnaeth 18 o ffilmiau i gyd.

Gellir tynnu'r rhaffau allan trwy guro'r wy yn galed i wneud ewyn, bydd rhai o'r rhaffau yn cysylltu â'i gilydd ac fe ellir hybu hyn gydag ychydig o wres a gwneud meringue.

mae Gal yn son am y siaradwyr/-wragedd Hwngaraidd sy'n 'dewis' siarad Almaeneg am eu bod eisiau 'statws a bri', ond nid yw'n cysylltu'r anghyfartaledd rhwng y ddwy iaith i leoliad grym o fewn y strwythur cymdeithasol ehangach).

Yn ogystal ceir adenydd rheiddiol yn cysylltu is- ffibril A y ffibrilau perifferol yn cysylltu a'i gilydd trwy gyfrwng cysylltiadau nexin.

Ar y diwrnod cyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal dadl ar yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu gyda holl Aelodau'r Cynulliad yn tynnu eu sylw at y gweithredu a fu gan aelodau'r Gymdeithas y bore yma yn erbyn mast ffôn symudol Orange yng Ngheredigion.

Cadwynau neu raffau hir o asidau amino wedi eu cysylltu â'i gilydd yw protein.

pan oedd y ddau beiriant yn cydredeg yn union yr oedd yr olwynion lythrennau yn cyd-droi, yn union fel petai siafft solet yn eu cysylltu.

Crafant y pridd o'r ddaear gan adael twneli gweigion a siamberi gorffwys, gyda'r twneli yn eu cysylltu ag ambell dwll dianc yma ac acw.

Bywyd newydd i'r hen iaith Ar un adeg yr oedd ieuenctid Cymru yn cysylltu Cymraeg â phethau hen-ffasiwn oedd ar fin darfod.

Nid yn unig yr yda ni'n awyddus i newid y dyddiad ond hefyd newid ei fformat - os oes gennych syniadau plis peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.

Felly nid yw'n syndod o gwbl bod prifysgolion a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â safonau academaidd yn gyndyn o roi o'u hamser a'u harian i archaeoleg môr neu i gael eu cysylltu â hi.

Enghraifft yw Rowlands o'r modd yr oedd y Derwyddon yn cydio yn nychymyg hynafiaethwyr yr oes, wrth iddo chwilio'n ddyfal yn ei fro am y meini hirion, y cromlechau a'r carneddau y gellid eu cysylltu a hwy.

(b) Adroddiad y Prif Swyddog Technegol yn cadarnhau na ellid gweithredu'r trosglwyddiad hyd nes y byddai'r Uned wedi symud i'r adeilad newydd a gwasanaethau ffôn a chyfrifiadurol wedi eu cysylltu.

Os oes angen rhagor o wybodaeth gellir cysylltu â llinell gymorth elusen Tenovus ar 0808 808 1010.

Canodd y Nant i ofyn gŵn gan ryw Wiliam Abad, beth bynnag, a chan fod cyfeiriad at Gorntwn yn un arall o gerddi'r bardd, dyma ateg o blaid cymryd ein bod wedi cysylltu'r gerdd ofyn a'r gwrthrych iawn.

Gobeithir cynnal y Sioe yn Neuadd JP, Bangor a bydd yr Ysgrifennydd yn cysylltu a nifer o gwmniau lleol i holi a oes modd iddynt arddangos eu dillad.

Gan fod hen draddodiadau yw'n cysylltu mwy nag un cawr â'r Hengae mae'n bosibl iawn mai yno y trigai Carwed ac mae Rhiw Garwed oedd hen enw'r llechwedd rhwng Bwlch y Clawdd Du a'r Hengae.

Credaf fod rhai'n cysylltu'r enw Moss a Moses, ond y mae awgrym arall, sef fod Moss yn ffurf ar Morse.

Gellir cysylltu'r enw ag enwau afonydd cyffelyb, megis Hoddnant ym Maesyfed, Morgannwg a Phenfro, Hoddnan ym Morgannwg a Hoffnant yng Ngheredigion.

Dyma fframwaith sylfaenol y protein lle mae'r asidau amino unigol wedi eu cysylltu a'i gilydd drwy'r bond amid, sef y cysylltiad rhwng grwp amino asid a grwp carbocsylig yr asid amino yn y safle nesaf.

Doedd hi ddim yn cysylltu Harri efo bloda.

Hawliodd fod Fidel wedi cysylltu ag e droeon, trwy ganolwr yn Caracas, i ymbilio am gyfarfod, ond doedd ganddo ddim diddordeb mewn trafodaethau.

cynllunio pellter minimal traffyrdd sy'n cysylltu dinasoedd.

Ond nid pawb sydd wedi cael profiad pleserus wrth geisio cysylltu ag ysbryd coeden.

Yn methu'n lân, fodd bynnag, â'i leoli, suddodd y gyllell i lawr am y cymal sy'n cysylltu'r aelod wrth y corpws, a dechreuodd hacio'n hyderus yn y diriogaeth honno.

Roedd y cyfarfod ei hun yn dipyn o achlysur - yn ffrwyth bron i flwyddyn o lythyru, e-bostio a ffonio wrth geisio cysylltu â chynrychiolydd democrataidd (eto'n rhyfedd o ddirgel) trigolion Gorllewin Casnewydd.

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch i sefydlu gŵp cysylltu yng Nghymru gallwch gysylltu â Swyddfa Cymdeithas yr Iaith, neu â Jim Killock.

Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.

'Bwriad y Comisiwn Ffilm yw hyrwyddo'r defnydd o adnoddau a lleoliadau Canolbarth Cymru ar gyfer cynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu ac hysbysebion.' Y tudalen flaen yn unig sydd yn y gymraeg, ond mae 'na luniau lleoliadau a'r cyfle i cysylltu a'r Comisiwn ar-lein.

Y tu allan, a'r gwyll yn dyfnhau, dydw i ddim yn credu fod unrhyw ffyrdd go iawn yn cysylltu'r pentrefi a'i gilydd.

Y bwriad yw cysylltu'r iaith â gwahanol brofiadau a bydd gweithgareddau perthnasol yn cael eu cynnwys yn y fwydlen iaith - megis gwaith llaw amrywiol, chwaraeon, symudiadau,g waith dramatig, ayb.