'Rydw i'n deall dy fod ti eisiau ymuno â'r giang?' 'Ydw.' 'Be 'di dy enw di?' 'Dei.' 'Dy enw llawn di?' 'David William Lewis.' Ac yna rhag i Bilo sylwi ar lythrennau cyntaf ei enw, ychwanegodd yn sydyn: 'Dei neith.' Cythrodd Bilo'n sydyn i wddw'r bachgen a'i ysgwyd fel cath yn ysgwyd llygoden.