Er ei fod yn sgrifennu o fewn cwmpas byr, y mae'n cywiro llawer o gamgymeriadau am fywyd Theophilus, ac yn ceisio unioni'r cam a gafodd trwy roi ystyriaeth i'w holl weithiau llenyddol a'i waith fel offeiriad cydwybodol.
Gobeithio fod y ffeithiau uchod yn cywiro'r camargraff a roed yn yr erthygl.
ch) cywiro sefyllfa ble caniateir o fewn y sector gyhoeddus i weithredu yn uniaith Saesneg ond nid yn uniaith Gymraeg, er enghraifft wrth gofrestru babanod, lle gellir gwneud yn uniaith Saesneg neu yn ddwyieithog ond nid yn uniaith Gymraeg.
Yr wyf wedi cywiro cymaint ag a allwn ohonynt ar y teipysgrif, ac eraill yn y nodiadau sy'n dilyn.
Dylid cywiro'r gosodiad "Bydd y taliadau unwaith ac am byth yma yn cael eu hymgorffori i mewn i swm yr ariannu sylfaenol am gyfnod o dair blynedd" trwy ddileu'r cyfeiriad at amser oherwydd na phenwyd unrhyw amser o'r fath.
Nid dweud yr ydym na chywirwyd ychydig arno o bryd i'w gilydd yng nghwrs y tri chan mlynedd diwethaf, ond y mae'n ddychryn meddwl cyn lleied o waith cywiro a fu arno.
Er iddo wneud llawer o englynion a chywyddau o dro i dro, ni byddai yn sicr o'u cywirdeb, ac wrth geisio eu cywiro llwyddai i wneud yr enghreifftiau digrifaf o'r gynghanedd yn feistres ar y bardd, yn lle'r bardd ar y gynghanedd.
Byddai'r gweithwyr yn helpu o bryd i'w gilydd, yn cywiro neu'n dod i'r adwy pan fyddai hi'n oedi, yn ceisio meddwl am y term technegol cywir.
Yr elfen Loywi Iaith trwy gynhyrchu deunyddiau byrion ar gyfer dysgu, eu cywiro eu hunain a chynnig rhesymau dros eu cywiriadau; arddywediadau; profion byrion aml ar agweddau ar gywirdeb; llunio cyfarwyddiadau i ddisgyblion ar bwyntiau gramadegol a.y.y.b.
Yr oedd staff yr Adran Iechyd Amgylchedd wrthi'n cywiro'r adroddiad drafft a dderbyniwyd gan NURAS a phan dderbynnid yr adroddiad terfynol fe anfonnid copi ohono i'r Swyddfa Gymreig ac i'r Aelod Seneddol.
Penderfynwyd fod y cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol olaf, wedi eu cywiro, yn gofnod cywir.