Gwelsom eisoes i fardd a oedd ymhlith y Cywyddwyr cyntaf - Llywelyn Goch ap Meurug Hen - ganu i Hopcyn ap Tomas, ond ar fesur awdl.
Ceir cyflwyniad nodedig i ganu'r Cywyddwyr fel y cyfryw ym Morgannwg yn y cywydd a ganodd Gruffudd Llwyd i'w hannerch.
Bellach, trown at wahanol gyrchfannau'r Cywyddwyr - a'r Cwndidwyr - o fewn terfynau Sir Forgannwg, gan ddechrau gyda'r mynachlogydd a chartrefi rhai gwŷr eglwysig eraill.
Cyfeirir at y saint yn aml yng ngwaith y beirdd, yn enwedig yng ngwaith y Cywyddwyr.
Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.