Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dad

dad

Man ei eni oedd t^y o'r enw Plas y Person, yn y Gyffin, gerllaw Conwy, lle yr oed ei dad, Dafydd ap Gronw, yn giwrad ar y prys.

'Mae cyfrifoldeb y lle 'cw i gyd ar 'i dad o.

Am eiliad, credai fod y cŵn wedi ymosod ar ei dad.

Troesant eu golygon yn ôl i ddechreuad yr achos Astudiwyd y dogfennau a'r adroddiadau a galwyd ar fab Ioan Harries, Tregoch, ar draws y blynyddoedd ac ar draws pellteroedd daear i ddod yn ôl a sefyll, lle bu'i dad Ioan Harries yn sefyll ac adrodd yr hanes hwnnw.

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

Cofiaf fel y byddai yn adrodd am ei dad yn gofyn bendith cyn bwyd ac fel y byddai ef a'i frawd Morgan yn gorfod aros adref ar yr yn ail sul.

Dim sŵn o gwbl wedi i'r dynion fynd oddi yma." Yr oedd Dad yn iawn.

"O, diolch i chi," meddai Dad.

Wedi bod yn Ffrainc oedd y dyn yn chwilio am fedd ei dad.

Chlywodd Robat John, fy mrawd, na fi erioed Dad a Mam yn ffraeo gymaint.

"A phan oedd efe eto ym mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef."

"Do," meddai Huw, "mae yna bost-offis ymhellach ymlaen ar y ffordd yma, fe awn yno." Lluniwyd teligram i Mam: "Dad ddim - yn dda.

Yr oedd mab yr Yswain, Mr Ernest Griffith, a oedd wedi cael gwell addysg na'i dad, ac wedi llyncu syniadau am y dull y dylai pawb adnabod eu lle mewn cymdeithas, dipyn yn wahanol i'w dad yn ei opiniynau a'i dueddiadau.

Ar ôl deall pwy ydoedd, bu Rolf Mengele yn llythyru â'i dad am flynyddoedd, cyn penderfynu mynd i Dde America i'w weld.

Wedi cuddio'r llawddryll yr oedd, meddai, gan fod ei dad wedi saethu'n fwriadol at griw o fechgyn yn Llanfwrog.

Roedd tŷ'r gweinidog -Bodathro, fel y gelwid ef - yn ffermdy, mewn gwirionedd, gyda nifer o dai allan, gardd a pherllan fawr lle y cadwai ei dad nifer o ieir.

Seymor Cassell, sy'n dod fel rhyw fath o Dad Bedydd o'r Tylwyth Teg, sydd hefyd yn Dad Bedydd yn y Maffia, fe ymddengys.

Gwelwn ar unwaith hen frawd o'r enw Wil Owen Hen Dy yn dyfod ataf yn gweiddi a gweddio, ac fe ddywedodd wrthyf: 'Fachgen, yr oeddwn yn meddwl mai cyfeirio at dy dad yr oeddet,' (am fod ef wedi ei ladd mewn gwaith heb fod ymhell oddi yno).

Yn ddigon tebyg i'w dad a'i deidiau gynt, dim ond mai cyngerdd neu seiat neu ffair oedd cefndir eu dychymyg hwy cyn i'r 'hogan' fynd yn 'slasan'.

HEULWEN: Dwgyd olwynion blaen pobol, meddylia, be' tase dy dad yn bensiwnydd?

Clywed y môr yn ei herio ar y gwynt o'r bar a mynd yn bwt o gogydd deuddeg oed ar long hwyliau ei dad.

Cofiodd John Gruffydd Jones am ei dad yn ymladd yn Arras.

Gan fod Syr John Wynn wedi etifeddu tiroedd Gwedir wedi marw ei dad Morys Wynn, gwnaeth ei orau i greu ystad helaeth a gwethfawr.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

Cliciwch unwaith tu allan i'r Wali Tomos - mae hyn yn dad-ddethol y testun - ac fe ddylai fod gennych:

Rhoddodd ddillad gorau Idris a Deio allan hefyd, rhaid bod yn dwt i fynd i weld Dad yn yr ysbyty.

Brasgamodd Louis drwy'r gegin ac i lofft ei dad.

Wedi clywed Mam yn dweud hynna roedwn i eisiau i Dad ennill.

I ddechrau, roedd ei dad ar ei draed.

Yr oeddynt i weld Dad, ac yr oedd yn gwella'n iawn, a byddai'n ôl yn y Cwmwd yn fuan.

Pan deimlodd yr ysfa i gael ci am y tro cyntaf, gofynnodd i Mam a Dad a gâi o gi bach fel anrheg pen-blwydd neu anrheg Nadolig, ond er crefu a chrefu, yr un oedd yr ateb bob tro.

Fe gollodd'i dad ddeng mlynedd yn ol, pan oedd o'n saith oed.

Ar waethaf holl ddoniolwch y 'Dad's Army' y gwir yw mai milwyr rhan amser oeddem (di-dâl wrth gwrs).

Nid oedd yn flwydd oed pan gollodd ei dad ynghyd â'i ddau frawd hynaf yn y dinistr a fu pan dorrodd dŵr i mewn i waith glo Argoed.

`Ond Dad, mae'r cwch yn mynd i suddo.' `Rydw i'n gwybod hynny, ond mae'r dŵr yn dod i mewn yn araf iawn.

gweithiai ei dad yn y dref ond ni wyddai 'r bechgyn eraill ymhle.

Er i'w dad gael ei ladd pan oedd Douglas Wardrop yn ddim ond pump oed, cofiai'r morwr yn glir sut yr oedd wedi dweud wrtho lawer gwaith pan oedd pethau'n mynd o chwith: "Dal ati, Doug, dal ati.

Petai o o gwmpas ei bethau fe fyddai wedi sylweddoli bellach fod Dad yn ardderchog am gael ei ffordd ei hun.

Roedd gan yr hogiau lenni du bits ar eu ffenest: syniad gwych Dad oedd yn bwriadu defnyddio'u llofft yn stafell dywyll i ddatblygu lluniau rywbryd, ymhen tuag ugain mlynedd, ar ôl iddyn nhw adael cartre.

Gwasgu llaw a chusan i Dad bob un, ac allan o'r ward gyda'r nyrs.

Ei dad yw'r cyn archdderwydd, John Gwilym Jones, Bangor.

Agorai dy dad ei galon imi'n aml.

Roeddwn i'n gwybod mai fe oedd y dyn, a oedd yn ôl y sôn yn dad i mi; doeddwn i ddim yn ei adnabod.

Bryd hynny, 'chaech chi ddim hyd yn oed gwisgo sbectol haul yn Omam Gan fod ei syniadau mor od, carcharwyd y mab gan ei dad a bu yn ei gell am dair mlynedd.

Yn ystod teyrnasiad ei dad y darganfuwyd olew yno, ac yn naturiol golygodd hynny newidiadau mawr yn y wlad.

Bu'n amddiffyn ei dad am flynyddoedd; ac fe wyddai.

Be 'di gwaith dy dad?

Dywedodd y mab rywbeth wedyn yng nghlust ei dad, ac ebe'r Yswain: `Dyma ti, Harri, 'rydan ni'n mynd i dreio codi llwynog ddydd Llun; roi di fenthyg dy geffyl i Ernest am y diwrnod?'

Oni fyddai'n well iddo fyw bywyd tawel, parchus yn helpu ei dad bob nos ac yn cadw'n glir o drybini?

"Tyrd efo ni, Jabi boi, i sodro'r uffar bach." Roedd gan Jabas gywilydd mawr o'i dad meddw.

Dyma fo'n dweud wrthyn ni wedyn, pan oedd o'n blentyn, fod gan ei dad o dŷ ar Topsham Road a bod yna un stafell yn y tŷ a bwgan ynddi, ac y byddai ei dad yn ei chadw dan glo bob amser.

Yn wynebu'r drws roedd yna wely haearn sengl, ac fel roedd o a'i dad yn edrych fe gododd y gwely i fyny i'r awyr bedair troedfedd oddi ar y llawr.

Yn gyson, pwysleisir mor debyg yw Harri i'w dad.

Yn wir yr oedd ei dad wedi clywed am Weilz pan oedd ar drip ysgol Sul ar bromenâd Brighton pan gyfarfu â rhyw Mr Evans o Faesteg a oedd yn aros yn y Grafton Guest House hefo Mrs Sibly.

Unwaith, ac yntau'n ymweld ag un o ffermydd yr ardal, dywedodd gwraig y fferm wrtho ei bod eisoes wedi talu i'w dad.

Cofnododd bopeth yn glir a manwl ar dudalennau glân y Miller's Gardeners' Dictionary - anrheg priodas John Browning, ei dad-yng-nghyfraith, i'r ddau ohonynt.

'Rhian Mai, ble mae dy dad?' gofynnodd wedi cynhyrfu'n lân.

Er mwyn iechyd moesol Cymru ac er lles moesol a chorfforol ei phoblogaeth, rhaid yw dad-ddiwydiannu Deheudir Cymru.

Dwyt ti ddim yn cofio Dad yn ei ddangos i Mam ac yn dweud mai i'r fan honno, lle'r oedd y polîs yn chwilio amdano, yr oedden ni yn dod ar ein gwyliau?'

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

Oedd dada yn un o ddeg o blant a chollodd ei fam pan oedd ond plentyn bychan, ond yn wahanol i blentyn "Y Bwthyn Bach To Gwellt", cafodd dad cyfrifol, gofalus i chadarn i'w magu i gyd efo'i gylydd a'u codi o dan do o safon cysegredig.

Roedd ei diweddar ŵr, Arthur, yn bel-droediwr proffesiynol ym Mangor a dilynodd Philip yng nghamre ei dad.

Hanai fy nau dad-cu o sir Gar Thomas Griffiths o Lannon, Llanelli a Thomas Bowen o'r Pwll, Penbre yn agos i Lanelli, a'm mam-gu o du fy nhad, Dinah Davies o'r Bwlchnewydd, Llannewydd, yn ymyl Caerfyrddin.

`Mwy nag y leiciwn i ddweud wrth neb, syr.' Sisialodd Ernest air yng nghlust ei dad, ac ebe'r olaf: `Faint gymeri di amdani, Harri?' `Yr un geiniog lai na chanpunt,' ebe Harri.

Roedd ei dad yn filwr ond cafodd ei ladd mewn brwydr.

Ond yr oeddynt i weld Dad, ac yr oedd yn werth dioddef ceir-modur, a'r gwynt anhyfryd a'r llwch er mwyn hynny.

Siwtiau brown a wisgai'i fam a'i dad a'i daid hefyd.

'Rhyw ddiwrnod, Sioned,' meddai Lleucu ar ei draws, 'mae hwn yn mynd i weld gwerth ei dad ac yn mynd i ddifaru 'i fod o wedi'i gymryd o mor ysgafn.' "Dydw i ddim,' protestiodd Rhodri ar unwaith.

Mae dy dad yn cysgu.

"Ddim ffit!" meddai Dad wedyn, gyda mwy o bwyslais fyth.

Efallai taw brawd i gefnder pedwaredd gwraig ei dad oedd ond brawd 'run fath.

Y mae caniata/ u i fwg ein ffatrioedd wenwyno'r awyr a dad- ddeilio'r coed ac i'w helifiant lygru'r afonydd yn drosedd yn erbyn y Creawdwr.

Rhoddodd yntau getrisen iddo gan ddweud mai honno fyddai'r olaf gan ei fod eisiau cadw rhai i'w rhoi i dad Catherine Pierce.

Er bod ei dad yn wael iawn, dechreuodd wella'n araf ymhen diwrnod neu ddau.

Gan fod Mam yn rhy brysur ar fore Sadwrn i feddwl am baratoi cinio, byddai Dad yn galw yn y siop sglods ar ei ffordd adre i brynu cinio parod.

LIWSI: Sori, Dad, wnes i'ch deffro chi?

'Dad, Dad,' galwodd Mali a chwifio'i dyrnau yn yr awyr.

Er siom i Jabas, dychwelodd ei dad a'i ddau ffrind i'w gwaseidd-dra arferol pan gynigiwyd cwrw iddynt.

Ffonio mam a dad.

Methodd dy dad ddeall dy serch di a John ond bu'n dda i rwystro Nat.

Pan ofynnodd Francis i John pam y bu iddo dorri'r gwn dywedodd fod arno ofn i'w dad ei saethu, ond iddo gael ar ddeall wedyn, gan Mary Jane Williams, mai bwriad ei dad oedd ei daro â baril y gwn yn hytrach na'i saethu.

Wrth weld eu hwynebau hir, meddai Dad.

HEULWEN: A finne, Dad.

Trodd stumog Jabas wrth glywed ei dad yn syrio a chowtowio i un oedd wedi dwyn ei le angori.

Mi gewch chi weld Huw am ychydig, meddai wrth Dad.

'Capelulo' oedd enw ty ei dad am ei fod yn debyg i dy o'r un enw yn Nwygyfylchi, a buan iawn y bedyddiwyd y bachgen yn Twm Capelulo gan bobl y dref.

Yr adeg hyn, oedd dad a man yn cynnal ysgol Sul yn y tŷ ac yn gwadd y cymdogion, tri theulu, i ddod atom.

Dywedodd hefyd iddo sgrifennu at dy dad a Ledi Huntingdon.

Agor ambell i anrheg gan Mam a Dad.

Petai o ddim ond yn medru gadael arwydd neu lwybr i ddangos i'w dad a Tudur i ble yr oedd wedi mynd!

Dim ond un anhawster allaf i ei weld mewn strategaeth o'r fath - y bydd rhai yn meddwl mai taid y babi ydi William, nid ei dad.

'Mae 'i dad e'n Special Constable erbyn hyn.

Gweddi: Maddau i ni'n camgymeriadau, O Dad nefol.

Gadawodd Jabas ei dad yn y Sailing.

"Ond sut oedd Wiliam cyn cychwyn?" "'Rydw i'n credu i fod o dest â'i dymchwel hi, ond i fod o'n tri%o dal." "Mi gwêl i dad o hi'n chwith ar i ôl o yn y chwarel." "O, ofnadwy."

Bryd arall breuddwydiai am angladd ei dad, angladd ei frawd, angladd ei chwaer a'i angladd ef ei hun.

Ond pennaf cyfaill ei dad yn Llanelli oedd Dr Gwylfa Roberts, gweinidog Tabernacl, Llanelli a bardd a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Roedd Modryb yn ei gwely yn darllen Woman's Weekly fel brenhines, Gwenan a'r hogiau'n cysgu a Dad yn edrych ar y newyddion hwyr ar y teledu.

Daeth tro mawr ar fyd Derek wedi iddo etifeddu swm sylweddol o arian ar ôl ei dad anhysbys.

Meddyliai am ei dad wedyn, wedi cael telerau gosod, rhai gwael yn aml, na wyddai yn y byd a gâi efe dâl am ei lafur ar ddiwedd mis.