Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadansoddi

dadansoddi

Fwy nag unwaith fe'i clywais yn treulio dros awr heb nodyn o'i flaen yn esbonio, yn dadansoddi, yn rhybuddio ac yn canmol.

Ystyriaeth arall sy'n gwneud y dasg hon yn un anodd yw y gellid dadansoddi'r dylanwadau mewn gwahanol ffyrdd.

Yng ngweddill y bennod, canolbwyntio ar y fframwaith disgrifiadol sy'n diddori yr awdur ei hun, sed Gramadeg Systemig, a ddatblygwyd gan M A K Halliday dan ddylanwad syniadaeth ei gyn- athro, J R Firth, am lefelau dadansoddi, sef Sylwedd, maes Seineg a Graffeg; Ffurf, maes hyn gan Rynglefelau: Ffonoleg ac Orgraff, y rhynglefel sy'n cysylltu Sylwedd a Ffurf, a Chyd-destun (neu Ystyr), sy'n cysylltu Ffurf a Sefyllfa.

Anodd iawn yw gallu dadansoddi cuddiad cryfder areithiwr mawr o'r gorffennol.

Datblygiadau dadansoddi.

Crewyd databas ar gyfer bwydo'r atebion i'r cyfrifiadur, ac wedi dadansoddi'r ffigyrau yn y databas, defnyddiwyd meddalwedd taenlenni (spreadsheet) Works i greu'r graffiau a'r siartiau.

Byddai'n rhaid, mewn geiriau eraill, gyfnewid y model rhannol a geir yn Ffigur I, model sy'n ceisio dadansoddi'r farchnad nwyddau ar wahân i farchnadoedd eraill, am fodel cyffredinol, model a fyddai'n ceisio dadansoddi'r gydberthynas rhwng y gwahanol farchnadoedd hyn a'i gilydd.

Mae'n amlwg na ellir tynnu'r gwenwyn o'r cawl, fwy nag y gellir dadansoddi cymdeithas i dynnu'r llygredd allan ohoni.

Mae'r Athro Glanmor Williams wedi dadansoddi'r helyntion hyn yn fanwl (yn Welsh Reformation Essays) a dangos sut y cafodd rhai ohonynt sylw yn y llysoedd, Llys Mainc y Brenin, Llys yr Ychwanegiadau, Cyngor y Gororau, y Sesiwn Fawr a Llys y Seren.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru a'r dathlu a'r protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfa'r frenhiniaeth heddiw.

Mewn geiriau eraill, mae ganddo "gwmpawd" cuddiedig yn ei gorff sydd yn gallu "teimlo% a dadansoddi yr ynni magnetig.

Rhaid i mi wneud fy ngorau glas i ddod i benderfyniad synhwyrol, ac i'r perwyl hwnnw, da o beth fyddai bwrw golwg yn ôl a cheisio dadansoddi, mor wrthrychol ag y medraf, yr holl ddylanwadau a'm harweiniodd i'r fan hon.

Y demtasiwn fawr ar hyn o bryd, wrth geisio esbonio'n hanesyddol sut y daeth y Diwygiad Efengylaidd, yw dadansoddi'r daioni a'i rhagflaenai a thynnu'r casgliad fod y Diwygiad yn gynnyrch anorfod y daioni hwnnw.

Roeddwn i'n credu ei bod yn hen bryd gweld sut yr oedd pobl Ciwba'n byw ar eu tir eu hunain a cheisio dadansoddi peth ar y chwyldro.

Wedi dadansoddi helynt y claf byddai'n ei hysbysu o'r moddion y bwriadai eu paratoi ar gyfer y salwch.

I mi, merch yw'r un a gyferchir yn y penillion ac ol-athronyddu methiant carwriaeth yw'r cynnwys, sef ceisio dadansoddi'r gyfathrach agosaf a mwyaf personol a all ddigwydd rhwng mab a merch.

"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â'r derbyniad a gafodd ei waith, yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi'r berthynas gymhleth rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol cyfoes y Gymraeg," eglura.

Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.

Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dadansoddi gwreiddiau a dail betys a chael ynddynt rai sylweddau anhysbys ynghyd â ffibr, haearn, caliwm, potasiwm, y fitaminau A, C a nifer o'r cymhlyg B, gyda'r dail yn arbennig o gyfoethog mewn haearn a fitamin A.

Gweithgareddau dadansoddi'r testun.

Yn yr oed yna dwyt ti ddim yn gallu dadansoddi rhyw lawer arnat ti dy hun, jest bod.

Yn yr erthygl yma edrychir ar rai o'r datblygiadau, a gellir eu rhannu'n syml i dri maes: datblygiadau mewn asesu a mesur, datblygiadau cenhedlu, a datblygiadau dadansoddi.

Doedd dim modd dadansoddi'n gwbl oeraidd yn erbyn cefndir fel yna; roedd tynged y ddwy wlad, beth bynnag, i raddau helaeth yn cael ei benderfynu fil o gilometrau i'r de-ddwyrain, ym Moscow.

Mae dadansoddi rhai nodweddion yn gymharol syml.

Bydd yr unedau'n cyflwyno'r arferion dysgu da a welwyd ar waith yn ystod cyfnodau o arsylwi yn yr ystafell ddosbarth ac yn adeiladu ar y dadansoddi a ddigwyddodd fel rhan o ymchwil a oedd yn cyd-redeg a'r gwaith.

Ceisiodd yr Athro Steve Jones, genetegydd o Goleg Prifysgol Llundain, ddatrys dirgelion yr hyn a olygir wrth Gymreictod a chenedligrwydd, ynghyd â dadansoddi o ble, yn hanesyddol felly, y daeth cenedl y Cymry.

Difyr yw ceisio dadansoddi'r pethau bychain sy'n ennyn gwen, fel yr hen gerbyd treuliedig hwnnw'n rhoncian ymlaen yn boenus o araf gyda cherdyn ar ei du ol; RUNNING OUT!

Penderfynwyd defnyddio pecyn meddalwedd integreiddiedig Works for Windows er mwyn dadansoddi'r atebion.

Os yw busnes yn cynhyrchu un math o beth yn unig, gellir cael y wybodaeth i benderfynu Costau Uned o'r cyfrifon ariannol gan nad oes angen dadansoddi'r gwariant mor fanwl ag mewn ffurfiau eraill.

Er bod dadleuon o'r fath yn ymddangos, ar brydiau, yn ffuantus, mae'r broses dadansoddi ieithyddol hwn wedi bod yn llesol i'r maes, trwy ein gorfodi i edrych yn fwy manwl ar beth yw hanfod y maes, pwy yn union yw'r plant a sut yn union mae darparu'n effeithiol ac yn deg ar eu cyfer.

Y mae cymaint o waith dadansoddi'r gwariant a'i briodoli i'r gwahanol dasgau nes ei bod yn amhosibl i'w cynnwys yn y llyfrau; dan yr amgylchiadau hyn, y mae'n rhaid cadw set o lyfrau costio ar wahân i'r cyfrifon ariannol.

Gellir dadansoddi y DNA sy'n cario gwybodaeth i reoli ffurf a bodolaeth anifeiliaid.

Gwir fod D J yn rhoi o helaethrwydd ei gydymdeimlad a'i hoffter o'r natur ddynol ym mhob cyflwr, a Lingen yn dadansoddi'n oer heb flewyn ar ei dafod.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru ar dathlu ar protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfar frenhiniaeth heddiw.

Y mae dadansoddi'r cysylltiadau rhwng ffydd a chymdeithas, diwydiant a diwylliant, yn ddigon cymhleth heb i'r drafodaeth gael ei chloffi gan athroniaeth amheus.