Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadau

dadau

Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.

Roedd y brawd a ddwrdiai ffawd eu dadau wrth y ffenest wedi sylwi ar rywbeth go bwysig.

"Y polisi mwya' effeithiol yw glynu at yr egwyddor fod pawb yn adnabod pawb; mae'n well na dibynnu ar dechnoleg yn unig." Ar ôl Nottingham, mae Ysbyty Mynydd Bychan, o leia', yn gwneud yn siwr fod unrhyw rybuddion yn mynd i dadau hefyd ...

Magodd a chynyddodd yr þydd Wyllt Gyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond dichon mai adar dof oedd eu cyn-dadau.

Arferai hawlio ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd nad oedd yn gwneud dim ond dilyn yr hen dadau Methodistaidd yr oedd cenhedlaeth ei dad wedi gwyro oddi wrth eu dysgeidiaeth.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.

Dyn a'i olygon ar y pellteroedd y tu draw i lesni'r gorwelion, y crwydrwr cosmopolitan oedd dyn â'i law ar lyw beic, ond dyn o fewn ffiniau'i gynefin yn gwarchod gwinllan ei dadau oedd dyn â'i law ar lorp berfa.