Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadebru

dadebru

Mae'i gwaedd yn dadebru'r marchog hanner marw a gwêl ef mor anghyfiawn fu iddo farnu Enid.

Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.

Dinistriwyd y byd hwnnw gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a phan oeddynt yn dechrau dadebru ar ôl y chwalfa torrodd yr Ail Ryfel Byd ar eu gwarthaf, gan chwalu'r holl obeithion am amgenach byd.