Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadl

dadl

Dadl David Griffiths yw ei bod yn ffasiwn i ystyried mai gwŷr galluog, talentog, cydwybodol, ond wedi eu camarwain, oedd y Dirprwywyr.

Pe bai'r gosodiadau'n gywir, anodd fyddai i neb ddywedyd i'ch erbyn, ond camsyniad sylfaenol eich dadl ydyw anwybyddu'r gwahaniaeth hanfodol rhwng traddodiad byw a thraddodiad marw, a marw hollol ydyw'r traddodiad Pabyddol yng Nghymru.

Rwy'n cofio dadl ar gynghanedd yn yr Herlald, rhwng Cymedrolwr a Llwyrymwrthodwr yn ymestyn tros wythnosau.

Gellir crynhoi prif ergyd dadl Glyn Davies i'r dyfyniad a ganlyn er ei fod yng nghwrs ei erthygl yn dweud pethau nad ydynt yn hollol gyson ag ef, ac er ei fod yn gorfod cydnabod nad oes ganddo enghreifftiau o'r math o ganu a ragdybir ganddo.

Ein dadl sylfaenol yw fod angen gweld ysgolion bychain yn asedau cadarnhaol yn y broses o adfer cymunedau pentrefol yn hytrach nag fel problemau.

Does dim dadl na fu'r holl luniau a dynnwyd o'r newyn yn Somalia yn gyfrifol am achub bywyd miloedd o'i phobl.

Cyhoeddir y papur hwn yn ystod Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan ym Mehefin 1999 - ychydig o fisoedd cyn diwedd y mileniwm - a'n dadl yw y bydd angen brwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol.

Dadl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod angen strategaeth gadarnhaol arnom i ddiogelu ysgolion gwledig.

Mae'n arwyddocaol, flwyddyn gyfan ar ôl i'r Cynulliad gael ei sefydlu nad ydym eto wedi cael dadl ar yr iaith Gymraeg.

Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.

Clywid dadl gref a chyffredin na ddylid caniatau unrhyw iaith ond Saesneg, rhag gwanhau awdurdod y wladwriaeth.

Yn academaidd, roedd hi'n ddadl rhwng Safon Byw a Chadernid Economaidd, ond yn y bon dadl ydoedd rhwng wynwyn a'r geiniog felen.

Maen nhw'n gwrthod dadl yr Eisteddfod fod rhaid cadw'r enw swyddogol er mwyn diogelu statws elusennol y Brifwyl a ffynonellau ariannol.

Yr elfen newydd a welwyd yn ystod cyfnod Jacob oedd ei fod ef ei hun, fel golygydd, yn manteisio ar dudalennau'r cylchgrawn i amddiffyn, neu ymosod os byddai galw, heb ofni cael ei ddal yng ngwe ffyrnig dadl.

Ond ar wahân i hynny, y mae dadl ysgolheigaidd gref tros lynu wrth y testun grweiddiol literatim.

Dwg i gof yn un peth amheuon Gruffydd am agwedd dybiedig ddilornus Lewis at yr Eisteddfod fel dim namyn 'gwyl y bobl.' Dengys hefyd fel y syniai Gruffydd am y gwahaniaeth barn o'r cychwyn fel dadl foesol yn ogystal a dadl esthetig, fel ymladdfa gwerthoedd.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Fe'i heriodd i'w wynebu mewn dadl gyhoeddus a phan wrthododd yr eglwyswr cyhoeddodd gyfres o lythyrau chwyrn yn achub cam merched ac Ymneilltuwyr Cymru yn y Monmouthshire Merlin a'r Caernarvon Herald, a'r llythyrau hyn a fu'n sail i'w bamffled grymus, ...

Maen fater o farn a yw'r gwr a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn haeddu y fath deyrnged ac y maen destun dadl air trwy gyfres deledu o'r fath y dylid talu'r deyrnged honno i arweinydd gwleidyddol, beth bynnag.

Pan gynhaliwyd gwyl genedlaethol yn Llanbed y tro diwethaf - yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984 - cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur o'r enw CYMRU 2000. Ein dadl ar y pryd oedd y gallasai cymunedau naturiol Cymraeg fod wedi diflannu ymron erbyn troad y ganrif, er y byddai dros 400,000 o unigolion yn dal i siarad Cymraeg.

Cafwyd dadl yn y Western Mail am natur Cyngor Addysg i Gymru.

I gloi'r gyfres cafwyd dadl, In Place of Wales, a drafododd y newidiadau chwyldroadol a gafwyd yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd o 1985 hyd heddiw gan edrych ar y rhagolygon i'r dyfodol.

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

pwysleisio nad oedd unrhyw wlad i ochri drwy ryfel â gwlad a oedd yn rhyfela yn erbyn gwlad arall, nac i gefnogi dadl y naill wlad na'r llall dros fynd i ryfel.

Ein dadl syml yw y dylai'r Cynulliad wneud popeth o fewn ei allu i gydlynu a symbylu a gweithredu'r fath strategaeth. Petai'r Cynulliad yn rhoi neges glir a phendant o'r dechrau ei fod yn gorff sy'n gosod pwyslais creiddiol ar y Gymraeg byddai hynny yn sicr o gael effaith gadarnhaol eang ar bob math o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

I ddynion tebyg iddo ef, yn enwedig pan fyddai dadl economaidd iwtilitaraidd gref drosti, a'r cof am derfysgoedd diweddar yn rhoi min ac awch arni, roedd addysg yn anad dim yn fodd i gael dylanwad ar y dosbarth gweithiol.

Mae'n debyg fod dadl begynol, ddu-a-gwyn fel un y 'Llythyr' yn fwy trawiadol nag un annogmatig W.

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

Ar y diwrnod cyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal dadl ar yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu gyda holl Aelodau'r Cynulliad yn tynnu eu sylw at y gweithredu a fu gan aelodau'r Gymdeithas y bore yma yn erbyn mast ffôn symudol Orange yng Ngheredigion.

Dadl y Democratiaid yw y gallai cynnwys y rhain fod yn ddigon iddyn nhw ennill Florida ac i Al Gore fod yn arlywydd.

Dadl Saunders Lewis oedd nad bodoli yn unig er mwyn yr iaith Gymraeg a wnâi'r

Yn ogystal, mae sawl dadl ymarferol o blaid cyfieithu i'r Gymraeg.

Bydd y llyfr o gymorth mawr i dorri sawl dadl pwy sy'n gyfrifol am beth - rhieni'r briodferch i dalu am ffotograffydd, trafnidiaeth, y wledd ac ati er enghraifft ond y gwr yn gyfrifol am daliadau yn gysylltiedig a chapel, y modrwyau a blodau i'r briodferch, y morynion a'r ddwy fam ond nid y blodau sy'n rhan o'u haddurniadau.

Penllanw dadl gyfatebol i eiddo Murry ac Eliot rhwng Gruffydd a Saunders Lewis oedd y 'Llythyr' ar y cyswllt rhwng llenyddiaeth a chrefydd.

Dyn tawel o ran natur oedd Caradog; ni chodai ei lais mewn dadl, ond gallai'r ateb fod yn ddeifiol.

Dadl llawer yw mai dyma'r unig sail dros ysgaru, a'r unig le lle y gellir ystyried ail-briodi, arwahan i lle mae un cymar yn marw.

Gwrthun, nid yn gymaint oherwydd yr hyn a wnaeth Tyson yn y gorffennol achos y mae dadl ei fod wedi talu'r pris am hynny a chanddo'n awr yr hawl i fyw ei fywyd.

Dadl resymegol wedi ei hadeiladu'n gelfydd, e.e.

Ym Muchedd Cadog fe geir dadl rhwng Arthur a Chadog am wartheg yr oedd yn rhaid i'r sant eu talu i'r brenin.

Pan ddaeth y trydydd darlleniad, fodd bynnag, cafwyd bod yr ASau Cymreig wedi cytuno a Mrs Bessie Braddock ac ASau Lerpwl nad oedd angen dadl.

I gloir gyfres cafwyd dadl, In Place of Wales, a drafododd y newidiadau chwyldroadol a gafwyd yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd o 1985 hyd heddiw gan edrych ar y rhagolygon i'r dyfodol.

Dadl Griffiths yw bod tystiolaeth amgylchiadol gref, er bod tystiolaeth ddogfennol fanwl yn eisiau; am hynny i gyd.

Mae'n debyg ein bod yn dechrau anobeithio tua'r adeg yma, ond er hynny, 'r oeddem yn sicr fod ein hachos yn un cyfiawn, ac na fyddai dadl addysgol na dadl am gostau yn peri i ni newid ein meddyliau bellach.