Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadlennu

dadlennu

Er mai prif lyfr John Addington Symonds ydoedd The History of the Italian Renaissance, ac er bod y llyfr hwnnw ar ryw ystyr yn hollol nodweddiadol o nawdegau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o ddechrau'r ugeinfed, ei lyfr mwyaf poblogaidd ydoedd Wine, Women and Song: Mediaeval Latin Students', llyfr a dynnodd y llen oddi ar gerddi'r Ysgolheigion Crwydrad, ac, fel y cawn weld, yr oedd eraill wrthi'n dadlennu byd cerddi'r Trwbadwriaid.

Naturiol iddyn nhw yw ymgynghori â'r dyn hysbys pan fydd hwnnw, mewn defod sy'n gymhleth gan gof y llwyth, yn torri wyau er mwyn dadlennu'r dyfodol.

Er ei methiant cymharol (ac onid trafod llwyddiant a methiant cymharol yr ydym mewn celfyddyd fel mewn bywyd?), fe berthyn iddi liaws o rinweddau, ac efallai fod hyd yn oed ei gwendidau yn dadlennu pethau diddorol am natur ein diwylliant llenyddol yn gyffredinol.