Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadleuai

dadleuai

I ymgyrraedd at hyn, dadleuai, dylai fod gan bawb ran ym mywyd y genedl - y bywyd ysbrydol, deallusol ac economaidd.

Credai'r gwirfoddolwyr mai dod ag addysg o dan ddylanwad yr Eglwys Wladol oedd nod y Llywodraeth, tra dadleuai'r garfan honno a oedd yn barod i dderbyn grantiau, fod y Cymry'n rhy dlawd i gynnal eu hysgolion a'u colegau eu hunain, ac y dylid manteisio ar y cymorth.

Yr oedd Gwen eisoes wedi yfed yn helaeth o ysbryd y Methodistiaid, ac anogodd ef yn daer i roi heibio'r meddwl am fynd ar ôl y cŵn, ond dadleuai Harri y buasai felly yn amharchu ei feistr tir a Mr Jones y Person, a hwythau wedi ei wahodd.

Dadleuai, gyda chryn gyfiawnhad, na fuasai Pero/ n wedi caniata/ u i'w bobl ddiodde'r fath galedi ag yr oedd Menem wedi ei greu.

Dadleuai Paul am bynciau fel hyn yn ddifalais ond heb flewyn ar ei dafod.

Dadleuai DJ Davies, yn wir, fod yr ardaloedd Seisnig yn barotach i dderbyn neges y Blaid na'r ardaloedd Cymraeg, oblegid yr ymdeimlad o wacter a geid ynddynt trwy golli'r iaith, a bod ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg yn fagl ac yn rhwystr i'w datblygiad politicaidd i gyfeiriad cenedlaethol.

Dadleuai rhai eu bod nhw wedi gweld y llong ac nad oedd rhagor na thafliad carreg i ffwrdd.

Dadleuai ymhellach mai bwriad llunwyr yr Erthyglau oedd bodloni Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, a'u geirio yn y fath fodd fel ag i gadw cynifer o Gatholigion ag oedd yn bosibl oddi mewn i'r eglwys ddiwygiedig.

Yn y Traethawd dadleuai Newman nad oedd yr erthyglau, o'u dehongli'n gywir, yn wrth-Gatholig nac yn wrth-Babyddol.

Dadleuai rhai, megis yn arbennig D. J. Davies, Pantybeiliau, fod y Blaid yn gwario gormod o'i hadnoddau ar yr ardaloedd Cymraeg gan esgeuluso'r rhanbarthau poblog Seisnigedig yn y De-ddwyrain.