Ni byddai ond esgus i'r arweinwyr gwleidyddol fyddaru'r cyhoedd â dadleuon rhagfarnllyd.
Ydi dadleuon Zola yn cytuno a diffiniad y Mudiad Anabledd o fyw'n annibynnol?
Yr oedd y dadleuon yn gwrteithio'r tir a byddai datgysylltu'r eglwys wladol yn tyfu'n brif achos radicaliaeth Gymreig ynddo yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.
Y rhain oedd y dadleuon, y tyndrâu, ac er na fynnaf ei thrafod heddiw, yr oedd hefyd y ddadl foesol hanfodol ynglŷn â defnyddio dulliau uniongyrchol.
Gwr sydd wedi ateb dadleuon Dafydd Elis Thomas yn eglur yw'r Dr Dylan Phillips, ac mae'n werth darllen ei bamffled, Pa ddiben protestio bellach.
Gan fod offeiriad Aberdâr wedi ymosod yn benodol ar Ymneilltuaeth, gan honni mai hynny, ynghyd â chryfder yr iaith Gymraeg oedd i gyfrif bod bywyd y dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd diwydiannol yn isel ac anfoesol, yr oedd y dadleuon yn gorgyffwrdd â'i gilydd, a Ieuan Gwynedd yn ymddangos fel amddiffynnydd 'gwir Gymreictod'.
Nid ydym yn derbyn dadleuon y Dde a leisir gan Dorïaid ac aelodau o'r Blaid Lafur na ddylid rhoi gofynion deddfwriaethol ar y sector preifat i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg.
Cafodd ei fagu yn Annibynnwr a gwyddai'n dda am y dadleuon diwinyddol chwerw rhwng Arminiaid a Chalfiniaid a rwygodd yr eglwys yng Nghefnarthen lle cafodd ei fagw.
Cafwyd gwrthwynebiad a phrotest, cafwyd cyflwyno dadleuon rhesymol a rhesymegol, cafwyd trafod ac ymgynghori.
Gorau cyn gynted y dywedan nhw wrthyn ni pa bryd y bydd y dadleuon gwleidyddol yna yn cael eu teledu y flwyddyn nesaf.
Ac yntau'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor ar ddechrau'r pedwardegau roedd yn gyfarwydd â dadleuon gwleidyddol y Blaid Gomiwnyddol a Phlaid Cymru.
Bwrir ni ar unwaith i ganol pair berw'r dadleuon yn y bennod gyntaf.
Dyma rai dadleuon o blaid credu bod yr ymadrodd "nid yw yn gaeth" yn golygu mwy na rhyddhau o gyfrifoldeb darparu aelwyd.
Byddai hynny'n gyson â dadleuon addysgol y Dirprwywyr, yn arbennig ddadleuon y mwyaf di-flewyn-ar-dafod ohonynt, J.
Problemau teithio Y dadleuon sy'n cael eu gwyntyllu amlaf yw'r gost uwch o deithio i'r de neu'r gogledd, safon gwael y ffyrdd yma yng Nghymru (hyn yn ei dro yn gorfodi aros dros nos); hefyd safon isel y pêl-droed a ragwelir yn y cynghrair newydd.
Derbyniodd argae Pergau gymorth oddi wrth Brydain o dan y llwyodraeth Dorïaidd, er gwaetha'r dadleuon am effaith amgylcheddol y cynllun oherwydd fod llywodraeth Malaysia yn prynu arfau Prydeinig.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llongyfarch Christine Humphreys AC am lunio gwelliannau sydd yn ymgorffori rhai o'n dyheadau a dadleuon sylfaenol.
I gychwyn mae Harri'n pwyntio bys at wendidau ei dadleuon, ond yn fuan iawn, ac yn gymharol ddibaratoad, mae Harri'n eu llyncu - nid oherwydd cadernid y dadleuon a gyflwynir, fe awgrymir, yn gymaint ag oherwydd cyfaredd dwy lygad dywyll Gwylan!
Wele'r dadleuon yn sownd yn y tywod ers i Thomas Charles ysgrifennu'r Welsh Methodists Vindicated - yr Eglwys Sefydledig yn amddiffyn ei safle drwy gyhuddo'r radicaliaid o ffurfio clymblaid annuwiol gyda'r Pabyddion er mwyn disodli'r wladwriaeth ei hun.
Y mae'r dadleuon ysgrythyrol a ddefnyddiai yn datgelu'n glir mor ddwfn oedd ei wybodaeth Feiblaidd.
a chael fan hyn fan draw wersi a dadleuon a chyfarwyddiadau gan ŵr mor wahanol â William Erbery y Ceisiwr a Peter Sterry a fuasai yn gaplan i Oliver Cromwell ei hun: sonnir am berthynas Llwyd ac Erbery ym Mhennod V ac am berthynas Llwyd a Sterry ym Mhennod VI.
Er bod dadleuon o'r fath yn ymddangos, ar brydiau, yn ffuantus, mae'r broses dadansoddi ieithyddol hwn wedi bod yn llesol i'r maes, trwy ein gorfodi i edrych yn fwy manwl ar beth yw hanfod y maes, pwy yn union yw'r plant a sut yn union mae darparu'n effeithiol ac yn deg ar eu cyfer.
Gellid cyfiawnhau pob un o'r dadleuon hyn ond ystyriwch am eiliad un o ganlyniadau gweithredu argymhelliad y Comisiwn.
Dyma'r tro cyntaf i Isaac Williams, yr addfwynaf a'r mwyaf gostyngedig o ddynion, fentro i faes dadleuon diwinyddol, ac ar unwaith daeth ei enw dan gabl ymysg awdurdodau'r Brifysgol a'r Protestaniaid selog.
Roedd yn naturiol, felly, i ni fod yn uchelgeisiol yn ein hymateb i'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1998: nid adroddiadau a dadleuon yn unig, ond hefyd rhaglenni dogfen, celfyddydol ac adloniant ysgafn.
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awr yn lobïo holl aelodau'r Cynulliad, trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a galw am gefnogaeth mudiadau eraill er mwyn egluro'r dadleuon yn llawn a chasglu enwau ar y ddeiseb.
Mae'r dadleuon a roddir o blaid cwtogi ymhellach ar yr hawl hon wedi'u seilio ar ddiffyg cyllid, a'r angen i leihau costau achosion gerbron Llys y Goron ac i esmwytho gweinyddiad y llysoedd hynny.
Cymdeithasai'n gartrefol â'r tadau cynnar a gwyddai'n iawn beth oedd arwyddocâd y dadleuon astrus hynny yn y bedwaredd a'r bumed ganrif a luniodd yr athrawiaethau uniongred am berthynas Personau dwyfol y Drindod â'i gilydd.