Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadlwytho

dadlwytho

Ar ôl gorffen dadlwytho aethant i Newcastle i lwytho glo ac yno ymddiswyddodd y Capten ond bu mor garedig â chymeradwyo'r Mêt i'r cwmni fel dyn da i gymryd ei le ac felly dyrchafwyd Mr Hughes yn Gapten yn fuan iawn ar ei yrfa gan afael yn y cyfle â'i ddwy law.

Mae'r defnyddiau'n cael eu dadlwytho gan y criw i gyd o gert fawr hen-ffasiwn sy'n rhedeg ar olwynion pren.

Er bod yr awdurdod yn hyderus eu bod wedi clirio'r rhan fwya o asbestos, maen nhw'n cyfadde y gall rhywun fod wedi dadlwytho'r deunydd yn anghyfreithlon ar y safle.

Talwyd am yr olwyn ar ôl i'r llong gael ei dadlwytho.

Fe fu cynnydd yn nifer y llongau pysgota ym Mae Caerfyrddin a rhain yn ychwanegu at brysurdeb y lle wrth ddod i mewn i gysgodi adeg stormydd a dadlwytho yr helfa bysgod.

At hyn, llawer o wahanol drenau yn dod i mewn ac allan o'r stesion, yn llwytho a dadlwytho.

Ddaru Anti Nel nabod cwch Uncle Danial ar unwaith - "Pluan Wen" ydi 'i enw o - a dyna lle roedd o wrthi'n dadlwytho pysgod, a'r cap doniol 'na sgynno fo yn gam ar ei ben.

Ar ganol dadlwytho'r geriach, tynnodd modur Americanaidd anferth i mewn.