Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadorchuddio

dadorchuddio

Roedd hi'n fore braf, a chan fod rhyw ddwy awr i fynd cyn y dadorchuddio, gadewais y ffordd fawr wrth dafarn y Red Cow yn Nhreorci a throi i fyny i Troedyrhiw Terrace wrth droed Moel Cadwgan.

Y mae'r dosbarth cyntaf yn cynnwys cyfarfodydd a chynadleddau, dadorchuddio cofgolofnau a gwrthdystiadau ffurfiol.

Gweld dinas Akrotiri, y bu archaeolegwyr yn ei dadorchuddio o'r lafa folcanig er 1967 gan ddangos yn eglur sut yr oedd yr ynyswyr yn byw 1,500 o flynyddoedd Cyn Crist, pan ffrwydrodd mynydd tanllyd a llyncu rhannau o'r ynys yn gyfan.

Dadorchuddio cofeb i Lywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri.

Yr oeddwn i a'm priod a chynifer o'r plant ag a oedd wedi eu geni bryd hwnnw'n bresennol ar achlysur ei dadorchuddio yn un o raliau'r Blaid.

Tra oedden ni yn Havana, fe gawson ni wahoddiad i ffilmio seremoni dadorchuddio cofgolofn i Lenin, y fwya' a'r hardda' o'r cofgolofnau a oedd iddo ledled y byd - ac roedd trideg- chwech o'r rheiny.