Daeth yn ymwybodol o lais y ficer eto.
Daeth un o'r garfan o hyd i ddalwasg bach mewn cerbyd Eidalaidd a adawyd yn yr anialwch ac, yn ogystal, gydaid o bethau metel amrywiol oedd yn ddirgelwch iddo fe, ond a alluogodd Hadad i wneud sawl jobyn cywrain.
Daeth rhyw dristwch drosof o weld bod yr hen bwll wedi'i gau a bod y trigolion yn baldorddi estroniaeth lle gynt, yn yr ugeiniau, Cymraeg a glywn.
Daeth yn adnabyddus trwy Gymru gyfan ym myd llenyddiaeth.
Daeth pobl yr ardal i wybod am yr helynt, a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus lle y pasiwyd yn unfrydol gan lywodraethwyr a rhieni'r ysgol i bwyso fod Waldo'n cael cadw ei le.
Daeth y lleuad allan gan daflu ei golau tawel oeraidd dros y wlad.
Daeth un o'r rheolwyr i wybod am hyn a bu'n rhaid gwneud adroddiad a'i gyrru at Mr W (Borth) Jones, y rheolwr cyffredinol, yng Nghaernarfon.
Daeth yr awyren i lawr yn esmwyth gan redeg ar hyd rhyw gae.
Daeth tro Hector.
Daeth â llawer o atgofion ac o straeon yn ôl i'r cof, a nifer o ddywediadau rhyfedd, a'r ffordd wahanol o edrych ar bethau ddaru mi ddod ar eu traws pan oeddwn yno.
Daeth ugain o gynrychiolwyr o ganghennau CYD a Merched y Wawr at ei gilydd i dysgu am weithgareddau newydd i gynorthwyo dysgwyr i ymdoddi i'r gymdeithas Gymraeg.
Daeth y floedd 'roedda ni'n ddisgwyl amdani cyn hir, nes oedd ffenestri'r tŷ cyngor yn crynu.
Daeth y cwmni ymhen blynyddoedd i Eglwys Sant Eleth Amlwch i gyflwyno'r Oratorio - "Myfi Yw%.
A chyda'r Trefnydd Busnes, Andrew Davies, yn cyhoeddi y cynhelid trafodaeth ar bwnc cig eidion ar yr asgwrn cyn gynted a bo hynny'n briodol daeth y sesiwn cyntaf - dof a digon anniddorol mewn gwirionedd - o gwestiynau i'r Prif Ysgrifennydd i ben.
Daeth y newydd trist y bore yma am farwolaeth un o gewri criced Lloegr, Colin Cowdrey, Roedd yn 67 oed.
Caethiwo Eseciel Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf yno, a dywedodd wrthyf, Cod a dos i'r gwastadedd, ac fe lefaraf wrthyt yno.
Drwy'r glaw, daeth dau ddyn yn cario calabash, sef llestr wedi'i wneud o ffrwyth coeden, a dodwyd hi ynghanol yr ystafell.
Daeth yn nes at waelod y gwely.
Daeth llawer iawn o bobl i'n tŷ ni i ddechrau, ac wedyn i Bethel, lle'r aethpwyd a hi, ac y cynhaliwyd cwrdd, a'r capel yn orlawn.
Daeth aelwyd groesawgar Ceri yn ganolbwynt pwysig i'r offeiriaid llengar.
Daeth y ditectif preifat Leo Beckett (wedii chwarae gan Neil Pearson) i'r sgrîn yn Dirty Work.
Bydd gennyf ddyled byth i dri yn arbennig, sef Mrs Burrell (daeth yn Mrs Burrell Jones yn ddiweddarach), John Roberts, Y Graig a'r annwyl Bob Edwards.
Daeth yr ateb lawn mor gyflym.
Daeth y newyddion i wylwyr o Gymru ar Wales Today yn gyntaf gyda newyddion brys am 5.30pm ar Hydref 27.
A'm gwaith wedi cwpla daeth yn amser i fi ddweud ffarwel i Cape Town, ond roeddwn yn edrych ymlaen at weld fy nheulu unwaith eto, cwrdd â'm cwsmeriaid a dychwelyd i ddysgu Cymraeg.
Daeth nifer o rieni'r plant i wrando arnynt a diolchir iddynt am eu cefnogaeth.
Daeth anrhydedd a chlod i ran cerddor ifanc o Lanfairdechan, sef John Williams, mab Mr a Mrs Leslie Williams, Tegla, Bangor, ac ef a gyfansoddodd um o'r Carolau.
Atebwch fi'n onest - ydych chi'n un o'r criw sydd eisiau prynu neu dim ond gweithredu ar eu rhan nhw yr ydych chi ?" Daeth newid dros wyneb y twrnai.
Daeth tymor Cymdeithas y Chwiorydd i ben gyda gwibdaith ar nos Wener lawog ym mis Mai.
Daeth ataf a rhoi ei law ar fy ysgwydd yn ei ddull cu a thadol (a bu ei gyffyrddiad grasol yn help nid bychan i mi ddeall ystyr seicolegol 'tadolaeth Duw', reit siwr).
Daeth rhyw nerth rhyfedd drosti.
Daeth brigau i lawr yn y coed.
.?" Yn rhyfedd iawn, ar ôl gweld rhyw bump cês, daeth rhyw deimlad annisgwyl o ddifaterwch, ac yn y pen draw, syrffed, drosof.
Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel yr Amlosgfa, Bae Colwyn, lle y daeth tyrfa deilwng i dalu'r gymwynas olaf dan arweiniad y Parchedigion Goronwy Prys Owen ac Isaac Jones, Abergele, a Mrs Alwena Jones yn gwasanaethu wrth yr organ.
Daeth Modryb i'w chwfwr ar ben y landin, a golwg fel dynes wyllt o'r coed arni.
Daeth chwarelwr if anc go uchel ei gloch i mewn, ac meddai, er mwyn cael tipyn o hwyl ar draul Francis, 'Mae nhw'n deud i mi, Francis, fod pob carreg sydd yn y twr 'na wedi costio punt i Assheton Smith.'
Ar ôl rhyw ddeng munud o'r distawrwydd yma, daeth llais dros yr uchelseinydd i gyhoeddi y byddai 'cwshti' yno'r noson ganlynol yn ogystal, ac y byddai'r "hogiau lleol yn siwr o orchfygu% eu gelynion y tro nesaf.
"Ydych chi'n cofio'n union pa noson yng Ngorffennaf y cawsoch chi'r freuddwyd?" Daeth ei wraig i'r adwy.
Datblygodd hi i fod yn un o golofnau'r pwyllgor a buan iawn y daeth yn gadeirydd.
Daeth y flwyddyn â dau ddatblygiad cyffrous i BBC Radio Wales - lansio ei opera sebon ddyddiol gyntaf a thonfeddi FM newydd ar draws coridor yr M4 a Gogledd Cymru, gan roi derbyniad gwell.
Bellach daeth arwyddocâd newydd i'r hen wyl, gyda'r pryder ynglyn â gwenwyno'r afonydd, torri fforestydd, troi tir âr yn anialwch a difa rhywiogaethau cyfain o greaduriaid.
Daeth y gweinidog, brynhawn yr angladd, i'r parlwr cyn codi'r corff, a darllen pennod o'r Beibl darluniadol â'r clasbiau aur.
Daeth Cymru mor agos i guro'r Goliath o dîm o Awstralia yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn Stadiwm McAlpine yn Huddersfield, neithiwr.
Daeth yn rhan nid dibwys o ddychymyg Cymru - yn rhan bwysig o ddychymyg rhai o'i haneswyr (haneswyr o fath gwahanol iawn i RT Jenkins, ond haneswyr serch hynny), ac yn rhan o weledigaeth hanes rhai o'i beirdd yn ogystal.
Daeth Gwawr yn nes ato.
Daeth mintai gymysg ohonynt i dueddau Caer ac ni wyddai'r Cymry druain sut yn y byd i'w hatal.
Daeth 60 o Gymry Cymraeg allan yn y glaw i weld y perfformiad hwnnw.
Daeth yma rai blynyddoedd yn ol o Bryn Mor, Llaneilian ac i Fynwent Llaneilian y dychwelodd.
Daeth ei waith fel darlithydd mewn Hanes yn y Coleg Normal, Bangor, ag ef i gysylltiad agos iawn a chenedlaethau o fyfyrwyr ieuanc.
A phan welsant fi yn dyfod atynt, ac yn gwybod fy mod yn ddirwestwr, daeth un ohonynt o'r tu ôl i mi ac ymaflodd am fy nghanol a gwasgodd fy mreichiau, a chymerodd un araU hanner peint o gwrw, gan feddwl ei dywaUt i fy ngenau, er fy ngwaethaf, gwasgais innau fy nannedd mor dynn ag y medrwn, nes y methasant yn eu hamcan."
Daeth yn amlwg mai digyfeiriad ac aneffeithiol oeddynt yn hel gwybodaeth am yr ail gategori tra ymgymerent â'r ymchwil gyntaf gyda holl frwdfrydedd witch-hunt.
Benthyciwyd offer cyfieithu Coleg Aberystwyth a daeth Mr Hywel Jones oddi yno i weithredu fel cyfieithydd.
Aeth e nôl i'w gornel a daeth e mâs i'r rownd olaf.
Daeth yn enwog dros nos fel y dref Almaenig lle mae'r nifer mwyaf o bobl wedi'u llofruddio mewn ymosodiadau hiliol.
Ac felly daeth y rhyfel i Epynt.
Daeth mwy o fedalau i Brydain yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney.
Daeth yn adeg i'w gychwyn.
Daeth Menna ataf, a sibrwd, "Sut ydach chi?
Daeth rhai o adar y môr i hofran uwch ei ben.
Dim ond ar ôl y briodas y daeth Reg i wbod fod Diane wedi cysgu gyda'i chyn-wr Graham y noson cyn y briodas.
Daeth y ci defaid butra a welodd JR erioed i ben y bwlch - nid ei fod o wedi gweld llawer o gŵn defaid budr - ac i ddangos ei groeso neidiodd ar fonet y car.
Cyn y cyfarfod roedd rhai o'r aelodau wedi gosod arddangosfa ar gyfer cystadleuaeth Llanelwedd ar y teitl "Gwneud yn fawr o'r ychydig" a daeth Ruth Davies, Llandegfan i roi sylwadau ar y gwaith.
daeth ei ddawn yn y cyfeiriad yma i sylw awdurdodau'r coleg, ac felly, pan aeth y swydd honno yn wag, fe'i penodwyd hefyd yn athro athroniaeth naturiol ", neu ffiseg, fel yr adwaenwn ni y pwnc.
Dim ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y daeth yn arferiad cyffredin i roi olwyn sbar gyda charafanau newydd, a dyw hynny ddim yn digwydd gyda phob un hyd yn oed yn awr.
Daeth Bari Morgan a Tommy Mutton ag Abertawe yn gyfartal wedi 68 ac 82 munud.
Daeth yr ymosodiad ddiwrnod wedi i Arafat ddweud iddo ofyn i wyr arfog beidio saethu at yr Israeliaid yn yr ardaloedd sydd dan reolaeth y Palesteiniaid.
Daeth rhyw wraig i'w gyfarfod hefyd ac adrodd pob math o gelwydd golau am Ffantasia a'r Tylwyth Teg.
Daeth Cwm Rhondda o'r golwg a'r ddau fynydd cyntaf i mi gofio eu gwld erioed, sef Penpych a Moel Cadwgan.
Daeth yr lesu'n agos iawn ataf, mor agos nes i'm calon doddi o gariad ato.
Daeth Myrddin at y barrau haearn yr oedd Geraint erbyn hyn yn ceisio'u tynnu'n rhydd â'i holl egni.
Cytunwyd i'w holi â'r cwestiwn oesol, "A oes Duw?" Heb eiliad o betruster daeth yr ateb.
Daeth cynhyrchu haearn yn Nowlais i ben wedi 228 o flynyddoedd.
Daeth yn un o ddringwyr gorau'r wlad.
Daeth y ddau Mephistopheles (Christian Bradshaw a Ben Addis) ag elfen o ddoniolwch manig i'r perfformiad, ond heb gollir dychryn sinistr.
Daeth nodweddion cyfarwydd eraill i'r amlwg yn fuan.
Daeth newid ar y drefn o gasglu wedi iddynt sylweddoli pa mor anfoddhaol oedd yr wybodaeth lafar, ac yn wir, pa mor amhosibl oedd teithio i bob twll a chornel.
Ar y funud honno, syrthiodd un o'r dynion oddi ar ei geffyl a bu farw; ond trwy law Samson daeth yn fyw drachefn.
Diolchais i Dduw am y ddau brofiad anghyffredin a gawswn, gan wybod na fyddai "ond unwaith prin i'w dyfod hwy." Daeth trydydd ymweliad gan golomen wen mewn breuddwyd neu weledigaeth.
Daeth godineb, ysgariad, erthylu a chwalu priodasau a theuluoedd yn rhan o brofiad miloedd.
Aeth y gwyliau yn rhy gyflym a daeth yn amser gweithio eto.
Daeth diwedd Medi cyn iddi fedru cyflwyno'i dogfennau cyflawn i'r Swyddfa Gartref.
Ar ôl yr ymgyrch gyntaf honno ynglŷn â'r iaith, daeth o bob cythrwfl fel march rhyfel yr Ysgrythur, ond bod y mwg o'i ffroenau ef yn fwg baco ac yn fwg bygylaeth.
"Daeth fy mhrofiad o wneud colur yn handi, achos oedd angen gwneud y llygaid yn drawiadol, felly oedd e'n neis gallu gwneud hynny." Tra'n gwneud Twm Sion Cati gyda Chwmni Whare Teg, fe ddaeth i gysylltiad â Catrin Fychan - Gina yn Pobol y Cwm.
Cawsom y ffisig, rhoddasom ef fesul tropyn yn ôl y gorchymyn ac ymhen yr wythnos daeth newid ynddi.
Daeth buddugoliaethau hefyd i Gaersws, Y Drenewydd a Bangor.
A daeth cyfle yn awr i wraig y tŷ fod mewn gwaith arall, rhan amser neu lawn amser, a gall fforddio talu i arall ofalu am ei phlant.
Drannoeth ar ôl glanio yn Dubai, daeth Salim ataf gan ddweud wrthyf ei fod am ddangos golygfa ryfedd imi.
Daeth y ddau i lawr i'r De o Ddinas mawddwy, un o'r pentrefi hyfrytaf a Chymreiciaf y pryd hwnnw cyn y mewnlifiad Saesneg iddo, ond yn Nant-y-moel y'm ganed i.
Daeth y Cymry, nad oedd neb yn rhoi unrhyw obaith iddyn nhw, o fewn hanner at greu y sioc fwya mewn unrhyw gamp erioed.
Daeth bachgen o dde India, o'r enw D.
Agorwyd y drws y tu ôl iddo a daeth Pierre i mewn.
Daeth Robin draw i'r garej unwaith i chwilio am waith, ac erbyn hyn bws undyn oedd hi; 'roedd yr hen drefn o fod yn ofalydd i gychwyn ac yna mynd ymlaen i ddreifio wedi gorffen.
Daeth awydd arnaf i ffoi o'r lle hwn a'i atgofion, yn ôl at fy mhlant.
Daeth y sw^n eto, clec uchel fel pren yn torri o dan draed rhywbeth trwm.
Arhosodd yn daclus ger drws yr ysgol ac ohono daeth boneddiges yn ffwr o'i phen i'w thraed.
Daeth y pedair Primetime Emmy a enillwyd gan Chwedlau Caergaint fisoedd yn unig ar ôocirc;l i'r ffilm ddwy ran dderbyn enwebiad am Oscar ac ennill gwobr BAFTA am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau.
Daeth Eritrea wedyn yn rhan o Ethiopia, o dan system ffederal, hyd nes i Haile Selassie ddod â'r dalaith o dan reolaeth y llywodraeth ganolog yn Addis.
Daeth diwedd y rhyfel heb i Hadad wybod dim am y peth oherwydd fe barhaodd gwrthryfel y Senwsi nes daeth rhyfel byd arall i wthio'r Eidalwyr o'r arfordir ac o'r oasisau yr oeddynt wedi eu meddiannu.
Daeth Dafydd gyda mi i'r t , ac eisteddasom yn yr hen gegin, canys yr oedd ``gwragedd rai'' gyda Miss Hughes yn y parlwr.
Daeth mudiadau fel Green Peace a Chyfeillion y Ddaear yn enwog, yn dderbyniol ac yn effeithiol.