Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daethant

daethant

Daethant yn fwy hyf a ffyrnig fel y ciliai awdurdod y Rhufeiniaid, nes dod yn bla ar y wlad a rhaid oedd ceisio'u gorchfygu.

Pwy oedd y cwmni neu o ba le y daethant, 'wyddai neb.

Daethant â'u cyfeillgarwch i helpu mam i ymsefydlu mewn pentref glofaol a oedd yn gwbl ddieithr iddi.

Daethant yn gymeriadau adnabyddus a chymeradwy ym mywyd y ddinas.

Ni fedrent deithio'n gyflym gan fod y tir corsiog yn arafu eu camau ond cyn hir daethant at gysgod llannerch o dderi ifanc.

Bryd hynny roeddynt yn fawr ac yn llyncu egni, ond fel cymaint o ddatblygiadau mewn ffiseg electronig daethant yn llai o ran maint yn ogystal â bod yn fwy effeithlon.

Daethant yn foddion i boblogeiddio mater a fuasai cyn hynny'n beth digon esoterig, a defniddiodd Gruffydd hwy fel bocs sebon, gan fynnu hawl draddodiadol yr areithiwr bocs sebon i osod gwrthrychedd o'r neilltu.

Daethant yn ol i fyw i'r Dyffryn i ardal Moriah i Homer gael mynd i'r ysgol.

Daethant maes o law yn allwedd i ddehongli cyfeiriadau Iesu at Fab y Dyn yn rhoi ei einioes yn bridwerth tros lawer ac at y cyfamod newydd yn ei waed.

Doedd o'n gwybod dim am y gors, ond mae pawb yn yr ardaloedd o gwmpas yn gwybod amdani." Y noson honno, yr oeddynt braidd yn siomedig - i feddwl bod y chwilio drosodd cyn gynted ag y daethant hwy i'r bwthyn ar eu gwyliau.

Tua dwy fil o flynyddoedd cyn Crist y daethant i Gymru.

Ac yn fuan iawn daethant o hyd i dors y tad a gweddill ei ddillad.

Toc, daethant at dŷ bwyta swnllyd ar gwr y dref.

Daethant, hefyd, i ardal Maesteg i weld ein llecynnau hanesyddol megis Y Forge a Corn Stores ac wrth gwrs Llangynwyd a'i drysorau.

Daethant at yr ail giât, wrth Goetra Uchaf, ac eto fe'i daliodd ar agor iddi, ac eto mi gerddodd hithau drwodd heb air.

Daethant i'r sefyllfa hon â hwy heb fod yn blant yr Arglwydd, ac felly heb fyw o dan ei safonau Ef.

Fel y clywe aelode o Glwb Caerdydd am y paratoi rhyfeddol yma, daethant i'r casgliad mai adlewyrchiad o banic ar y Strade oedd hyn i gyd, a bod hyn yn cadarnhau eu cryfder nhw fel tîm oedd yn siwr o fuddugoliaeth.

Daethant yn ôl a golwg wedi cael braw ar bawb ond Robin.