Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daethpwyd

daethpwyd

Daethpwyd i sylweddoli gwerth y cyfnodolyn.

Un rheswm oedd nad oedd hi'n bosib' adnabod y cyrff y daethpwyd o hyd iddyn nhw yn y meysydd gwaed, a'r llall am fod cymaint wedi cael eu cipio gan y Khmer Rouge a diflannu am byth.

Daethpwyd o hyd i'w gorff ar fin y dwr.

Daethpwyd â gafr gyfan, newydd ei rhostio, a llond twb mawr o reis wedi eu cymysgu â ffa.

Lle cynt y darluniwyd Crist 'yn un â phridd y ddaear' a'i adael ar hynny, bellach daethpwyd i'w gynysgaeddu ag enaid ac i synio amdano fel 'Iesu rhydd', fel un (a defnyddio iaith Peate am y tro heb egluro dim arni) wedi canfod ei enaid a thrwy hynny sicrhau anfarwoldeb iddo'i hun.

Fodd bynnag, buan y daethpwyd i helaethu gofynion manwl y ddeddf a hawlio fod pob defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg i'w ochel.

Daethpwyd i sylweddoli'n fuan iawn fod athrawiaeth y ddwy natur yn angenrheidiol ar gyfer ateb y cwestiwn hwn.

Daethpwyd i adnabod Hydref19 fel 'Black Monday' pan gollwyd 50 biliwn o'r farchnad stoc.

Yn ddiweddarach, mae'n debyg, daethpwyd o hyd i ail lyfr cofnodion y Dafydd ymhlith papurau John Rhys.

Daethpwyd i ymddiddori yn y gorffennol er ei fwyn ei hun, daethpwyd i astudio dogfennau, daethpwyd i grynhoi 'ffeithiau', ac i ddilorni cynlluniau dwyfol a chwedlau dynol.

Daethpwyd o hyd i'r perthynas a daeth allan yn edrych fel Kentucky Minstrel tu chwithig allan gan fod ei wyneb yn glaerwyn efo'r blawd ac o gwmpas ei lygaid a'i weásau yn ddu.

Daethpwyd o hyd i babell bifoac Eidalaidd o rywle a chaniatawyd iddo ei chodi ar ben y rhes, ond heb fod yn rhy agos at y babell nesaf.

Ar ôl ymchwil pellach i effaith canllawiau daethpwyd i'r casgliad nad oeddynt yn effeithiol oherwydd bod eu hawgrymiadau neu eu rheolau yn rhy gyffredinol.

Daethpwyd o hyd i gyrff y ddau frawd gyda'i gilydd ger y ffynnon wrth odre Craig Irfon a dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Brodyr.

Trwy ei syniadaeth gefnogol i'r Chwyldro Ffrengig, a fynegir yn y cyfrolau hyn, y daethpwyd i adnabod Iolo Morganwg fel 'Bard of Liberty'.

Wrth sefydlu'r Blaid daethpwyd o hyd i egwyddorion sylfaenol cenedlaetholdeb Cymreig.

Daethpwyd â'r heddlu, tri o ddynion mawr...

Oherwydd ei ffurf cysylltid ambare/ l a pharasôl â'r haul, a daethpwyd i gredu ei bod yn anlwcus i'w hagor yn unman ond ym mhresenoldeb yr haul, hynny yw, y tu allan i'r ty ac nid y tu mewn.

ond yn ddiweddar daethpwyd o hyd i'w sylfeini a hawdd inni heddiw yw dychmygu pwysigrwydd yr adeiladau hyn.

Daethpwyd i esbonio marwolaeth Crist fel y weithred lle cymerodd Duw bechod ac euogrwydd dyn arno'i hun ym mherson y Mab.

Rhywle mewn ystafell ddirgel yn y Swyddfa Ryfel yn Llundain bu dynion yn gwyro uwch map o fynydd-dir Cymru, ac wedi astudio'r tirwedd a chyfrif erwau, daethpwyd i benderfyniad.

Tua phum wythnos yn ôl daethpwyd o hyd i gorff bachgen oedd yn ei ugeiniau cynnar.

Daethpwyd o hyd i olion deinosoriaid ar hyd y traeth yma, felly, Iwc dda i chi wrth edrych o gwmpas - efallai y dowch chi o hyd i ddarn o un o'r ymlusgiaid mawr!

Daethpwyd a'r orfodaeth i ben drachefn ddwy flynedd yn ol a chafwyd mwy o achosion oddi ar hynny.