Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dafarn

dafarn

Prynodd Sioned beint iddo a diolchodd fel pe bai wedi cael hanner y dafarn.

Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.

Ac yna pan elai'r person hwnnw i'r dafarn gyda'r nos neu i gyfarfod cymdeithasol neu arall dosbarthai slipiau a chasglai enwau yno hefyd.

Rhyw gul-de-sac oedd Troed y rhiw a rhaid oedd troi'n ol at y Red Cow, a chofiais mai hon oedd y dafarn a fynychid gan brodyr fy mam a lle y dysgodd ei brawd John sut i ddawnsio, camp yr ymffrostiai ynddi drwy ei oes.

Dros amser collwyd y gair tafarn o'r enw ond tyfodd yr elfen olaf boncath yn enw ar y pentref lle safai'r dafarn.

'Roedd y dafarn yn rhwydd lawn, o bobl, o fwg, o sŵn, a'r ffenestri'n ager i gyd gan iddi fwrw drwy'r dydd.

Yn wir, âi allan o'i ffordd i 'w swcro drwy ddod â chanlyniadau adref gyda hi, canlyniadau a gawsai yn y dafarn lle byddai'r gynnau mawr yn iro'u gyddfau ar gyfer y brif unawd.

Awgryma'r hanesion amdano ei fod yn gartrefol ddigon ymhlith dynion yng ngweithdy'r teiliwr neu yn y dafarn, ond ei fod yn cadw merched hyd braich trwy feithrin fa‡ade o gwrteisi cellweirus neu trwy eu hanwybyddu.

Roedd hi'n fore braf, a chan fod rhyw ddwy awr i fynd cyn y dadorchuddio, gadewais y ffordd fawr wrth dafarn y Red Cow yn Nhreorci a throi i fyny i Troedyrhiw Terrace wrth droed Moel Cadwgan.

Os oeddem yn chwarae gartref, byddai pawb yn cael mynd i dafarn y Mount Vernon wedyn.

Pleser munud awr yw'r cyfan yn y dafarn gyda'r blys, A'r teulu bach yn goddef angen, rhai o'r plant yn llwm eu crys: Ac heb ddillad ar eu cefnau, heb esgidiau am eu tra'd Pennoeth, coesnoeth ar yr heol yn newynllyd iawn eu stâd.

Ond nid drysaur dafarn y tro hwn ond to Stadiwm y Milflwydd.

Digwydd enwau anifeiliaid ac adar pur gyffredin mewn enwau hen dafarnau yng Nghymru ac y mae'n debyg fod arwydd yn dangos llun yr anifail neu'r aderyn yn crogi y tu allan i'r dafarn gynt.

Pan oedd yn hogyn, byddai'n cynorthwyo yn y stablau a'r tafarndai yn y dref, yn rhedeg ar neges i hwn a'r llall ac yn glanhau esgidiau yn yr Eagles, oedd yn dafarn ar lwybr y goets fawr rhwng Llundain a Chaergybi bryd hynny.

Urddwyd Thomas Williams (Gwilym Morganwg), sef ceidwad y dafarn a enwyd, ac Evan Cule gan Iolo Morganwg yn yr orsedd hon.

Llanwodd y dafarn a chwyddodd y miri.

Pan oedd Rhian yn ddeuddeg gadawodd y teulu'r dafarn a phryd hynny y dechreuodd pethau fynd o chwith rhwng Reg a Megan.

Cyneuwyd y tân hwnnw yn ei fynwes wedi iddo wylio anterliwt, un ddigon amrwd, tu allan i dafarn Penlan Fawr ym Mhwllheli, un ffair Gwyl Grog.

Gyda'r Deri yn wag a busnes yn brin, maen rhaid i Diane feddwl am gynllun yn reit sydyn i roi syched ar bobol a'u denu i'r dafarn.

Yr unig beth nad oedd yn ei hoffi oedd pobl yn sefyll ar y seddau a'r byrddau yn y dafarn.

Pa sawl un a yrrodd yr arferiad i geisio boddi ei ofidiau yn y dafarn?

Y tro diwethaf roeddwn i yn Y Bae fel Y Docs oedd enw'r lle ac yr oedd on lle gwahanol iawn i'r hyn ydio heddiw er bod yna ambell i hen wal ac ambell i hen dafarn fel y Packet yn dal i sefyll.

Dewch, mae eisiau ar yr achos, dewch o deimlad da bob un; Pam y byddwch yn segura yn y dafarn drwy eich oes, Gwario'r cyfan oll am gwrw, a diweddu 'ngeiriau croes?

Roedd rhai ohonynt wedi mynychu'r gwasanaeth Mabsant yn Eglwys y Plwyf, Llangynwyd cyn ymuno gyda'r gweddill yn yr Hen Dafarn hanesyddol.

Roedd pawb yn barod am saith i fynd adref er i beth rhwystr ddigwydd oherwydd fod rhai o'r bechgyn wedi eu dal yn ceisio dwyn bwrdd o'r dafarn a'i gario ar y bws.

Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.

Serch hynny, rwy'n cofio mynd ar neges ddirgel i dafarn y Prince of Wales, a oedd yn eiddo i ddau aelod o gapel fy nhad, mynd i mewn drwy'r ardd gefn yn ol ei gyfarwyddyd manwl, i brynu ychydig o frandi iddo am ei fod yn dioddef yn y gwely o'r ffliw ac am wella erbyn y Sul.

Ond heb amheuaeth roedd y dafarn yn chwarae lle amlwg yn hanes y teulu.

Gan fod rhai o'r caneuon yn ganeuon actol, a dim llawer o le yn y dafarn fe fyddai sefyll ar fyrddau a seddau yn digwydd yn reit aml.

Gwelwyd ugain o gystadleuwyr ar y maes, ond yn anffodus trodd yr hin yn stormus a drycinog - a throdd y beirniaid i'r dafarn leol, gyda'r canlyniad nad oeddynt mewn unrhyw gyflwr i feirniadu'r gystadleuaeth - a rhaid ydoedd gohirio'r dyfarnu hyd at y Llun dilynol.

Ai'n aml hefyd i sefyll y tu allan i'r dafarn lle y bu'n yfed yn feunyddiol.

Prin fod brethyn yn aros o doriad Robert Jones, y Teiliwr; ac nid yw'r adeilad a arferai fod yn Dafarn namyn Siop, ac ni werthir dim yno sy'n gryfach na Lucosade!

Ar ôl y gêm cawsom wahoddiad i fynd i dafarn gyda bechgyn Leeds.

Roedd y miri ar ei anterth pan daflwyd y drws yn agored yn sydyn a daeth hen grwydryn garw ei olwg, yn gwisgo rhyw garpiau blêr, i mewn i'r dafarn.