'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.
Wrth gwrs ni fyddai rhywun byth yn dod i ben a dyfynnu cyfeiriadau difyr allan o gyfrol fel hon a'i dalennau yn brothio ohonyn nhw.