Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dalwr

dalwr

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

Mewn gwirionedd, fe wnâi'r dalwr waith dau ddyn, oblegid nid yn unig yr oedd yn trin y platiau yr ochr arall i'r rowls, ond yr oedd yn rhaid iddo hefyd iro gyddfau'r rowls, a hynny'n gyson trwy gydol ei dwrn gwaith.

Er bod y dalwr yn osgoi gwres mwyaf y felin gyda'r gwaith hwn, yr oedd serch hynny'n waith caled iawn i grotyn pedair ar ddeg mlwydd oed.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

Dal y platiau yn dyfod drwy'r rowls oedd gwaith dalwr, ac yna'u hestyn yn ôl i'r rowlwr dros y rowl uchaf.