Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

damaid

damaid

Yng nghwmni ei ewythr Owen yr aeth Watcyn Wyn i'r pwll glo i ennill ei damaid am y tro cyntaf, ac yntau'n grwt wyth mlwydd oed.

Wedi pregethu yn y gyntaf yn y bore, ni roddodd neb w ahoddiad iddo i gmlo, a bu raid iddo yrr.lwybro i'r eglwys arall y prynhawn, pregethu yno, a dychwelyd adre heb damaid o fwyd ers amser brecwast!

Nid wyf am geisio ail-ddweud hanes 'Fel Hyn y Bu', gan fod y gerdd yn ei ddweud ef yn gryno ddigon, a chan y bydd y rhai a glywodd Waldo'n ei adrodd yn helaethach, yn hynod anfodlon ar unrhyw ail ferwad a geir gennyf i, er ei bod yn weddus nodi fy mod innau'n ei gofio'n ychwanegu ambell damaid apocryffaidd, megis y sôn fod y brigâd tân wedi gorfod dod allan gyda'r heddlu i chwilio am y sbi%wr.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Roedd llawer o'r cownteri yn gwbwl wag - ac eithrio ambell ddarn o gig neu damaid o gaws.

Gobeithiaf y bydd yn damaid bach i aros pryd ac yn ddigon i godi blys ar y darllenydd i fynd ati i chwilota drosto'i hun yn nechrau'r haf.

Yr oedd yr helgwn, a gadwyd heb damaid o fwyd ar hyd y Saboth, yn anesmwyth am gael cychwyn i'r helfa, a theimla Harri yn bryderus pa ffigur a dorrai efe yn ystod y dydd.

Mae hon yn ddigon diniwad.' Gwyliodd Dan y lleill yn difodi'r deisen gwsberis gyda blas, a phan dorrai Emrys ail damaid iddo'i hun, ni allai ymlid yr olwg farus o'i lygaid.

Ond nid oeddynt damaid haws â chwyno.

Mae hi bron yn amhosib i lenor proffesiynol sy'n byw ar ei ysgrifbin neu'i brosesydd geiriau ennill ei damaid wrth ysgrifennu yn Gymraeg yn unig, er bod y sianel deledu Gymraeg yn siŵr o fod wedi bod yn gaffaeliad yn hyn o beth.

Os nad oedd y pellter rhwng y ddau le yn fawr, nid dros nos y cynefinodd y dyn fu'n ennill ei damaid yn 'mecanicia', chwedl yntau, â'i yrfa newydd.

A hefyd, gan ei fod wedi blino ar fyw heb ennill ei damaid fel myfyriwr, mae Comiwnyddiaeth hefyd yn fodd i'w ryddhau o'i waith ymchwil a dychwelyd i'w ardal i weithio ar y ffordd.

'Roedd yn un hawdd ei darfu ac nid oedd dim yn ei gynhyrfu'n fwy na gorfod mynd o dŷ heb damaid o fwyd.