Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

danadl

danadl

Y darluniad cywiraf a fedrwn roddi o'r golygfeydd ar y daith hon ydyw disgrifiad a roddir gan Solomon o faes a welodd ef yn rhywle: `Wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr (goed) a syrthiasai i lawr; y palasau ydynt wrthodedig - yr amddiffynfeydd ydynt yn ogofeydd, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa diadelloedd.'

Coes bren, coes blastig, menyg rybyr, trombôn, gwybedyn marw a gwin danadl poethion: i gyd yr un peth yn y diwedd.

Cymysgwch a rhoddwch i'r fuwch mewn dau chwart o de danadl poethion.

Nid aethai neb i'r drafferth i ymwthio drwy'r drain a'r danadl poethion i fynd ar ei gyfyl.

Rhus toxicodendron yw'r eiddew wenwynig - efo deilen fel meillion yn sgleinio o goch - ac os cyffyrddwch â nhw mae'r dolur yn waeth ac yn ffyrnicach na'n danadl poethion ni - ac yn cymeryd amser hir i leddfu.

aros fel glas- wellt y borfa heb dyfiant yn ystod yr oerni, gwywo uwchben y pridd fel danadl poethion, neu gysgu'n flagur tew o fwlb dan y pridd.