Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

danfon

danfon

Trwy godi amheuaeth am ddyfodol yr ysgol, yr oedd y gweinyddwyr yn sicrhau fod llai o rieni'n danfon eu plant i'r ysgol, a daethai tranc yr ysgol felly'n broffwydoliaeth hunan-gyflawnol.

Roedd yr ymdrechion annibynnol a wnaed i godi arian a danfon cymorth i'r Cwrdiaid yn dangos bod tynged y bobl hyn wedi dal dychymyg y byd rhyngwladol.

Ymhen ychydig ddyddiau cefais alwad ffôn ganddo yn dweud bod y telerau'n dderbyniol ac yn gofyn inni fynd yno ymhen pythefnos, aros am ddeng niwrnod, ac y byddai ef yn danfon ticedi inni trannoeth.

Roedd y tri swyddog wedi cael eu codi dridiau wedi iddynt ddianc ac wedi eu danfon i wersyll ar yr arfordir.

Ond wrth ei danfon adref soniodd wrthi am y cariad arall oedd ganddo draw yn Ffrainc.

Yn y dyddiau hynny unwaith bob chwarter y byddai'r gof yn danfon ei filiau allan, ac ambell dro byddai bil y gof bron 'hyd braich'.

Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.

'Wel, os cofiwch chi, mae 'na gerbyd neu fan neu rywbeth tebyg yn danfon y dyn at Lety Plu bob tro.' 'Iawn,' meddai Gareth.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn danfon copi o'r neges at bob aelod o'r Cynulliad yn gofyn am eu cefnogaeth i wyrdroi'r penderfyniad Mi fyddant yn penderfynu wedyn ar unrhyw gamau pellach yn yr ymgyrch.

Os yw llawfeddyg yn gweld bod gwir angen am driniaeth lawfeddygol anodd, cymhleth a pheryglus ar y claf, a honno'n driniaeth nad oes ganddo fawr ddim profiad ynglŷn â hi, yna dylid, ar bob cyfrif, danfon y claf at lawfeddyg arall sydd wedi arbenigo yn y math yma o driniaeth.

Yn ei neges ati dywed Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd y Cynulliad, 'Yn Lloegr y bwriad yw danfon y cyllid ychwanegol yn uniongyrchol at ysgolion, gan leihau unwaith yn rhagor swyddogaeth yr Awdurdod Addysg Lleol democrataidd.

Nid mater o ddeddfu negyddol yw hi o hyd er mwyn creu rhwystrau, ond mae deddfau yn fodd i ymrymuso a rhyddfreinio unigolion a chymdeithas, creu amodau ffafriol ar gyfer datblygiad, a danfon neges glir a phendant ynglñn â gwerthoedd cymdeithas.

Mae danfon plant i feithrinfeydd yn debyg i gadw cywion mewn ffatrioedd amaethyddol...

Winston Churchill oedd cocyn hitio pawb wedi i streic y Cambrian ddarfod: 'Oedodd yn rhy hir cyn danfon y milwyr i fewn', meddai perchnogion y pyllau glo; 'buasai'n well iddo ddefnyddio'r fyddin ar bob adeg, yn hytrach na'r heddlu', honnodd ASau Torlaidd a Rhyddfrydwyr asgell-dde.

Mae deddfau yn danfon negeseuon clir ynghylch yr hyn sy'n dderbyniol o fewn cymdeithas.

Danfon fi i'r caban .

"Y dyn sy'n danfon papurau newydd ben bore i siopau bach y pentrefi yma.

Ond mewn cae rhwng y siop a Stanley Buildings digwyddais ddal sylw ar ferlan ddu yn tynnu car fflat, a deall gan ffrind ei bod yn perthyn i 'Hugh Williams joinar' ac yn danfon eirch liw nos i Bendyffryn (sanatoriwm yr adeg hynny).

"Tâl Danfon" Holl gostau postio cludo llwytho yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth ddanfon/ddarparu y Deunydd i'r Cynhyrchydd.

Y fam a'r baban wrth sgil y dyn tywyll ar gefn mul, ac ar ol cael twymo, cael ei danfon ymlaen i stordy oedd ddim yn bell.

Ond, fel y soniwyd eisoes, yn aml ni all y llawfeddyg cyffredinol dibrofiad a chymharol anfedrus fforddio danfon achos cymhleth at rywun mwy profiadol gan fod ei fywoliaeth yn dibynnu ar wneud yr operasiwn ei hun.