Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dangosodd

dangosodd

Am gymal neu ddau dangosodd fymryn o nerfusrwydd yna aeth rhagddo i ganu'n hyfryd, gydag aeddfedrwydd tu hwnt i'w oed.

Dangosodd James Evans nad oedd y meirwon wedi marw ac y byddent yn codi o'u beddau, yn union fel y golygfeydd hynny o filwyr yn atgyfodi yn ffilm Abel Gance, J'accuse, ym 1919.

Dangosodd hynny iddi am y tro cyntaf pan arweiniodd hi allan o'r Aifft, ei harwain i fod, - a byth wedyn yr ecsodus hwnnw yw prif gyfeirbwynt eu perthynas.

Dangosodd Cymdeithas yr Iaith fod modd gwneud hyn gyda gwên, ac yn aml iawn, mae ymgyrchu'r Gymdeithas yn ymgyrchu llawen.

Dangosodd hynny nad oedd angen ond ychydig ddygnwch i ennill sedd ar gyngor bwrdeistref nad oedd yn ymrannu'n bendant yn ôl pleidleisiau.

Dangosodd yr aelodau fod gan y Cyngor swyddogaeth bwysig wrth ddatblygu polisi darlledu o fewn Cymru, ac mae hyn yn sicr o gael effaith arwyddocaol ar y berthynas a ddatblygir rhwng y Cyngor ac aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dangosodd y modelau steiliau hyfryd a chreadigol, a chafodd y gynulleidfa ei synnu at y technegau newydd sydd ar gael.

Dangosodd Waldo yn ei erthygl ar 'Barddoniaeth T. E. Nicholas' mor angerddol y gallai amgyffred gwirionedd ac mor anodd iddo weithiau oedd gwahaniaethu rhwng gwefr sylweddoli gwirionedd a gwefr adnabod barddoniaeth.

Yr un modd dangosodd ef a Mrs Davies letygarwch hael yn y mans, Tre Hywel, Ffordd y Garth Uchaf, tuag at y llu myfyrwyr a ddeuai i Fangor.

Trefedigaeth fewnol oedd hi o hyd, fel y dangosodd achos Tryweryn mor glir.

Mae llwybr uchaf Afon Ceint yn hynod o syth ac yn llenwi coridor a gerfiwyd, fel y dangosodd Embleton, gan ddwr tawdd yn y cyfnod yn union wedi'r rhewlifiant.

'Fe gollodd ei le yn nhîm Cymru y tymor dwetha ond fe ddaeth 'nôl a dangosodd e fod cymeriad cryf gydag e.

Ond, mae peryg i Lafur ddibynu'n ormodol arno, ac fel y dangosodd etholiadau'r Cynulliad, Senedd yr Alban a sawl gornest leol ar gynghorau Lloegr, all Mr Blair ddim perswadio pawb.

Ond bedair munud i mewn i'r ail hanner, dangosodd America eu gallu ymosodol - yr asgellwr Malakai Delai yn croesi'n y gornel ar ôl i Allan Bateman fethu tacl allweddol.

Dangosodd pob un ohonynt, o'r ieuengaf i'r hynaf, ddiddordeb bru+d yn yr hyn yr oedd gan Mrs Davies i'w ddweud wrthynt.

Gofynnodd y Tywysog Bach iddo: 'Wyddoch chi sut i helpu fy rhosyn truan i, sy'n colli ei liw ac yn gwywo?' Dangosodd y Man Friday ei ddannedd mewn gwên fawr ac ateb: 'Mae'n rhaid i ti ei fwyta e'.

Dangosodd optimistiaeth a gorhyder ffôl, wedyn, trwy fynnu, yn groes i bob cyngor doeth, ymweld â Dallas, lle 'roedd y trigolion yn ei gasa/ u?

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

Dangosodd Dewi Z.

Dangosodd Mr Steffan Griffith mewn pennod ddiddorol o'i eiddo'n ddiweddar fod gan deulu Waldo Williams, o ochr ei dad gysylltiadau agos â'r ardaloedd rhwng Taf a Chleddau.' Ceisiaf innau ddangos yn yr ychydig nodiadau hyn fod gan y bardd gysylltiadau teuluol â'r Wythi%en Fawr ym Mrynaman yn ogystal.

Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.

Ffermwr a threthwr fu ef weddill ei oes, a dangosodd nad oedd dyn a'i ben yn llawn o wyddorau y mwyaf cymwys i drin tir.

Dangosodd tîm cynhyrchu adloniant BBC Cymru ei allu i gynhyrchu sioe stiwdio gerddoriaeth a sgwrs gyda seren fawr o fyd y theatr gerddorol.

Dangosodd gwaith blaenorol yn y maes hwn eisoes fod nerf yn rhedeg ar hyd pob tentacl.

Dangosodd ei ymroddiad i adeiladu talent ar draws pob un on gwasanaethau, ac yn arbennig i sicrhau mwy o amlygrwydd i raglenni Cymru ar rwydweithiaur BBC, ei allu diamheuol i arwain y sefydliad, ac mae wedi paratoi BBC Cymru ar gyfer y sialensau newydd syn ei wynebu yn yr oes ddigidol.

Mewn ffordd unigryw dangosodd barodrwydd Yr Ymofynnydd ei hun i gyflawni gweithred o aberth, er mwyn parhau i fyw.

Dangosodd yr Athro Petkov ymhellach fod ginseng yn amddiffyn y corff rhag effeithiau tyndra a straen.

Am fod Eglwys Loegr yn sefydliad gwladwriaethol Seisnig, ac y rhai a fynnai fod yn angymdeithas sifil Seisnig, ystyriwyd y rhan a fynnai fod yn annibynnol arni, boed y rheiny yn Annibynwyr, yn Fedyddwyr, yn Bresbyteriaid neu'n Grynwyr, yn fygythiad i'r drefn wladol Seisnig, gyda digon o reswm fel y dangosodd Cromwell.

Dangosodd yr astudiaethau hyn fel yr oedd tafodieithoedd yn ymrannu'n ardaloedd ffocol, canolfannau o ddylanwad ar gyfer lledu nodweddion ieithyddol ac ardaloedd trawsnewid rhagddynt, sef ardaloedd yn rhannu nodweddion dwy neu ragor o ardaloedd ffocol cyfagos.

Dangosodd Cathyr yr holl offer soffistigedig oedd ar y dec i Anna, yn glociau mawr cyflymder, cwmpawdau electronig a'r offer hunan-lywio, y cyfan yn sgleinio fel sylltau.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

Dangosodd wyth Llanelli y gallent hwythau hefyd hyrddio'n effeithiol ar ôl sgrym, ac ennill ryc, a defnyddio'r meddiant pan ddaeth Luc Evans i mewn i roi pas wych i Andrew Morgan, yr asgellwr de, a chwaraeodd yn lle Ieuan Evans anafus.

Dangosodd cipolwg sydyn ar y spido eu bod yn gwneud dros saithdeg; drwy'r sgrin flaen, gwelai Gareth y goleuadau blaen yn dawnsio oddi ar lwyni a ffensiau.

Mae'n bosibl mai rhan o ffurf gynharach ar yr hanes yw'r orfodaeth i adrodd ei stori wrth bob un sy'n dod i'r llys ac yna cynnig ei ddwyn ar ei chefn, neu, fel y dangosodd y Dr Brynley Roberts, fe all fod yn ffurf o gosb gynnar, cosb a ddarostyngai'r troseddwr yn boenus ac y gwyddai'r awdur amdani.

mewn cyfarfod cyhoeddus yn nhref Abertawe yn ystod yr Ysgol Haf, dangosodd beth y byddai'r penderfyniad yn ei olygu mewn disgyblaeth i ymladd brwydr ymreolaeth drwy ddulliau di drais.

Lai nag wythnos yn ôl dangosodd lun du a gwyn sgleiniog ohono'i â 'nhrwyn yn y mwd a 'nhin i fyny.

dangosodd y weinyddiaeth delegraff ddiddordeb ynddo yn syth, a threfnwyd comisiwn o drydanwyr enwog i archwilio i ragoriaethau'r peiriant.

Dangosodd y ddau awdur cyfoes yr elfennau o losgach sydd yn chwedl Branwen, a bu Saunders Lewis yn ymdrin â Blodeuwedd hefyd, wrth gwrs, ac yn y cyfan fe welir y gwenwyn sydd ym mherthynas pawb â'i gilydd, a'r clwyf marwol sydd mewn serch i rai fel Trystan ac Esyllt.

Yn y Traethodau i'r Amseroedd dangosodd Newman nad oedd yn hoffi'r gair 'Protestant' ac ymddangosai fel pe bai eisiau diwygio'r Diwygiad.

Dangosodd Mr E R Pickering sleidiau ar wahanol ffyrdd o 'hel achau'.

Da iawn y dangosodd y cenedlaetholwr Seisnig, Mr Enoch Powell, yn Barn (Mawrth 1972) na eill y ddadl honno fyth adfer cenedl.

Dangosodd Egwyddor Perthnasedd Einstein hefyd na fyddai pwysau yn ymddangos yr un fath i ddau wyliwr sy'n teithio ar gyflymdra gwahanol mewn perthynas a'r gwrthrych.

Dangosodd y llwyddiant ym maes rhaglenni dogfen ffeithiol y cysylltiad rhwng rhaglenni rhwydwaith a'r rhai a gomisiynwyd yng Nghymru i Gymru; rhaglenni megis The Man Who Jumped to Earth - stori anhygoel Eric Jones o Dremadog ac yntau'n 61 mlwydd oed a chanddo'r freuddwyd o neidio oddi ar Raeadrau Angel yn Venezuela sy'n 3,212tr o uchder.

Dangosodd y cipolygon hyn ar y bydysawd yng ngoleuni pelydrau-X neu uwchfioled bob math o bethau nad oeddem yn gwybod amdanynt o'r blaen.

Dangosodd fod llygod a borthwyd ar ginseng am fis yn medru nofio heb ddiffygio ddwywaith gyhyd â llygod na chafodd ginseng.

Dangosodd Darren ddiddordeb mawr ynddi ond cwympo mewn cariad gyda Madog, nai Iori, wnaeth Emma.

Roedd gan BBC Cymru drefnu sylweddol i'w wneud i achub y digwyddiad wedi i'r hyrwyddwr dynnu'n ôl y diwrnod cyn y cyngerdd, ond dangosodd y gallai tîm cyfan BBC Cymru ymateb i'r argyfwng, fel y gwnaeth Dennis O'Neill a gamodd i'r adwy ar y funud olaf.

Dangosodd y cais y byddai yna fanteision eraill i'r cynllun yn ogystal â chael ysgolion newydd a hynny o ran adfywiad a thwristiaeth, yr amgylchedd, cyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau cymunedol.

Ann's oedd Ffrancon Thomas a dangosodd ei ddawn arbennig pan y fachgen ifanc iawn gan iddo ganu yng nghor yr eglwys.

Cafodd ei addysg mewn ysgol elusennol yn Llanfechell, ac yno dangosodd gymaint o ddawn mewn rhifyddeg nes i'r meistr tir, Arglwydd Bulkeley, ei anfon i Lundain.

Dangosodd ei ymroddiad i adeiladu talent ar draws pob un o'n gwasanaethau, ac yn arbennig i sicrhau mwy o amlygrwydd i raglenni Cymru ar rwydweithiau'r BBC, ei allu diamheuol i arwain y sefydliad, ac mae wedi paratoi BBC Cymru ar gyfer y sialensau newydd sy'n ei wynebu yn yr oes ddigidol.

Dangosodd Bowser ei allu yn gynnar wrth drefnu a mapio ffordd tramiau i gael y glo o Gwm Capel i lawr i afael y gamlas.

O'r cychwyn dangosodd Gruffydd ei blaid; bedyddiodd syniadau Lewis a Bebb yn gynnyrch 'mudiad' yn null Action Francaise: