Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

danseilio

danseilio

Cyhuddodd Cymdeithas yr Iaith y cwmni 'Cymreig' anferth 'HYDER' heddiw o danseilio cymunedau Cymraeg drwy israddio eu canolfannau yn y gorllewin - gan naill a'i orfodi eu gweithwyr i adael neu eu symud i ardaloedd di-Gymraeg.

Ac eto, aeth y Llywodraeth Dorïaidd ati i gymryd i ffwrdd yr ychydig ryddid a oedd gan bobl Cymru gan danseilio Cynghorau Lleol Cymru, Undebau Llafur, Y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg -- pawb a allai eu gwrthwynebu.

Yn wyneb y duedd cynyddol i ganoli grym ac i danseilio awdurdod awdurdodau lleol trwy ganiatau i'r farchnad-rhydd cael rhwydd hynt i reoli, ni fydd adroddiadau ar yr iaith Gymraeg, ynddynt eu hunain yn sicrhau dyfodol i'r iaith.

Yn ôl Brundtland - 'Datblygiad cynaladwy yw datblygiad sy'n cyfarfod y gofynion presennol heb danseilio gallu cynhedloedd i ddod i gyfarfod â'i gofynion hwythau'.

Ymddangosai fel pe byddain mynd allan o'i ffordd yr wythnosau cyn y gêm i danseilio hyder Arwel Thomas gan dynnun llwyr y tir oddi tan ei draed trwy gychwyn y gêm hebddo ddydd Sul.

Mae'r dystiolaeth yn dangos yn eglur y byddai ein hymrwymiad i lynnu at bolisi o gynnig rhenti y gall pobl eu fforddio yn cael ei danseilio os na sicrheir hyn.

Yn sgîl cyhoeddi canlyniadau pôl piniwn ar agweddau tuag at y Gymraeg dewisodd yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas fynd ati unwaith eto i ymosod ar Gymdeithas yr Iaith a cheisio ei orau glas (hynny yw, Tôri blw) i danseilio ymdrechion mudiadau protest yng Nghymru yn gyffredinol.

Drwy anghyfarwyddo'r berthynas gonfensiynol rhwng datblygiad rhesymegol a datblygiad amserol naratif mae Robin Llywelyn yn awgrymu un ffordd i danseilio'r metanaritifau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol a greodd dynged yr iaith Gymraeg.

Oherwydd dinistrio sylfaen bentrefol ein hiaith rhaid creu sylfaen newydd iddi; troedle a fedr wrthsefyll bygythiadau'r mewnlifiad cyson o Saeson i'r ardaloedd gwledig, a throedle a fedr gymathu nifer sylweddol ohonynt heb danseilio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Hefyd mae pwysau o gyfeiriad GATT a'r trafodaethau gyda UDA a chost cynyddol yr holl gyfundrefn yn araf danseilio ei werth economaidd a gwleidyddol.

'Roedd hyn yn rhan bwysig o'i ymdrech i danseilio rhesymeg materyddol naturiolaidd a dangos y berthynas sydd rhwng dyn a'i amgylchfyd.

Ond buan iawn yr oeddent yn mynd gam ymhellach ac yn defnyddio'r iaith ymerodrol fel cyfrwng i danseilio'r diwylliant lleiafrif.

Roedd Siad Barre eisoes wedi difa'r hen drefn o lywodraeth yn Somalia, drwy danseilio grym yr hynafgwyr ymhob llwyth - a phan ddiflannodd yr unben, fe adawodd ar ei ôl wlad ar chwâl.

Roedd eu gallu i oroesi fel haid hefyd wedi ei danseilio'n llwyr.

Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.

Efallai y teimlwch mod i'n fwriadol danseilio gwyddoniaeth wrth bwysleisio ansicrwydd y cyfryngau a'r mesuriadau a ddefnyddia'r gwyddonydd.