Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dante

dante

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Beirniadu'n llym heb arlliw cydymdeimlad yw ei swydd, tra geill trasiedi neu 'gomedi', fel y'i diffinnir gan Dante neu Balzac, gynnwys bywyd yn ei amrywiaeth dihysbydd, ei feirniadu yr un mor llym ac eto anwesu dyn yn ei drueni.

Clywsom Waldo'n son am weledigaeth Shakespeare a Dante o'r by dac yn ei hamddiffyn drwy ofyn ...

Er mor wahanol eu moddau yw dramâu Groeg, Dante, Shakespeare, y Gododdin, y Mabinogi, Rhys Lewis, Dafydd ap Gwilym, Rilke, Dostoevsky, y rhyfeddod mawr yw y gellir dadlau eu bod i gyd yn arwyddocaol am yr un rhesymau, fod yn gyffredin iddynt i gyd yr elfennau a'r nodweddion sy'n cyffroi dyn yn deimladol ac ymenyddiol.

Dyma un mesur o'r gwahaniaeth rhwng Ellis Wynne a Dante.