Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

danteithion

danteithion

Maen nhw'n llawn i'r ymylon o fwydydd a danteithion ar gyfer milwyr y gelyn.

Roedd hyn yn drêt mawr i blant y Cwm oherwydd anaml iawn y doi danteithion fel hyn i'w cyrraedd.

Gan ei bod hi'n bum mlynedd ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yr oedd hi'n hen bryd inni gael blasu ei danteithion eto.

Y cinio a'r te yn cael eu cario mewn basgedi efo ni yn y trap mawr, a dada yn taenu canfas o dan gysgod y coed, a mam yn rhoi lliain gwyn "damascus", ar danteithion i gyd ar ben Tan yn cael ei wneud, a'r tecell haearn yn mynd ar hwnw i ferwi dŵr i gael gwneud te.

Babi annwyl iawn oedd y cyfrwng newydd yng ngolwg Sam ac yr oedd yn ei fwydo â danteithion o bob math.

Mae'r danteithion dros y dwr yn America yn golygu mwy iddyn nhw na sloganau chwyldroadol y pumdegau.

Y noson honno, roedd llawer o'r un pwysigion yn ôl ym mhrif westy'r ddinas yn bwyta danteithion a sipian siampên.

Ym Maesteg derbyniwyd croeso cynnes a the Cymreig ganddynt yng nghartref rhieni'r Athro roedd Mrs Joseph wedi paratoi dros gant o "bicau ar y mân" iddynt ymhlith danteithion eraill.