Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darfu

darfu

Darfu'r tridiau yn y gell gosb.

(Yn debyg i'r ffordd y darfu ei frawd yn y Ffydd o Goleg Bala-Bangor ....

'Rhaid i mi ymddiheuro am darfu arnoch chi ar y Sul,' meddai Rhian.

Moelodd y cardotyn ei glustiau gan wrando'n astud heb wneud y smicyn lleiaf o sŵn rhag iddo darfu ar eu sgwrs.

"Mi roeddan nhw wedi tario i lawr y Waen cyn dy eni di." Ond doeddwn i ddim awydd ei darfu o wedyn mewn lle mor gyfyng.

Byddent yn werth mynd drwyddynt yn hamddenol a gofalus pan na fyddai'r un darlun arall ar ei meddwl i darfu ar bopeth.

Darfu am ddyddiau'r 'Welsh Not'.

Dafydd Wigley oedd y cyntaf i darfu rhywfaint, diolch byth, ar y tangnefedd gyda chais ymosodol am ddatganiad ar y sefyllfa ddiweddaraf i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Ni all Darfu'r tawelwch nac amharu dim Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd Yn gwneuthur gosteg a'u chwyrnellu chwim.

Os darfu i chi gadw cwestiwn Kierkegaard ar eich cof tra'r oeddwn yn siarad, mi fyddwch wedi gweld ei berthnasedd.

Darfu grwndi Martha Arabela; lledodd ei llygaid o fod yn ddwy hollt gul i fod yn soseri anferth.

Darfu hynny wella dim ar ei dempar o, a thra oedd o yn trio tawelu'r ddau yrrwr ac edrach faint o dolciau oedd yn eu cerbydau nhw, mi gefais gyfla i'w gwadnu hi odd'no.

Darfu'r naws a darfu'r gwirod, Darfu'r sôn am hedd yr Hafod, Darfu'r hen chwerthinus gwmni Darfu'r byd oedd gynt ohoni.

Neidiasant ar y trên cyntaf am adref, ac yno y darfu iddyn nhw aros am gyfnod yn reit swat, gan arswydo rhag pob caniad ffôn neu gnoc ar y drws.

Ac ni wyddai neb arall, hyd y darfu i mi ddeall oddi wrth y bois eraill.

Nid ychwanegwyd fawr ddim ers yr ail ganrif ar bymtheg i darfu ar ei eglwys foel un gofeb a'i glwstwr o ffermdai gwynion.

Na, y teleffon sy'n gyfrifol am darfu ar gwsg fy ngwraig a minnau.

Weithiau, bydd rhywbeth yn digwydd i darfu ar y cytgord hwn, weithiau gyda chanlyniadau ofnadwy - fel y gwelwn yn nes ymlaen yn yr adran hon.

'Roedd yn un hawdd ei darfu ac nid oedd dim yn ei gynhyrfu'n fwy na gorfod mynd o dŷ heb damaid o fwyd.