Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darganfod

darganfod

cymharu yn gyson y canlyniadau â'r gyllideb er mwyn darganfod camgymeriadau, rheoli gwaith aelodau o'r staff sy'n gyfrifol am wahanol adrannau, a darparu data at gyfer amcangyfrifon pellach at y dyfodol.

Er enghraifft, efallai y bydda'i'n trafod fformiwla y bydda'i'n cymeryd yn ganiataol eu bod yn ei wybod ac yn darganfod nad ydyn nhw ddim.

Ar lan y môr, mae pobl yn penderfynu eu bod nhw'n mynd i ddringo'r clogwyni, yna hanner ffordd lan maen nhw'n darganfod na fedran nhw ddim mynd i fyny nag i lawr.

Fe ellid darganfod deunydd sawl drama naturiolaidd ynddi.

Mae'n syndod gynifer o bobl yn yr eglwysi sy'n ceisio darganfod ar ba gyn lleied o grefydd y gallant fyw.

Yr hyn a wnaeth yr arbenigwyr hyn oedd darganfod y ffyrdd gorau i "ddatblygu% ein darnau ar y cychwyn - er mwyn trefnu ein hymosodiad ar y Brenin, tra ar yr un pryd yn diogelu ein darnau ein hunain gan gynnwys y Brenin, wrth gwrs, rhag perygl.

Ymlaen wedyn i Trento ac yma o'r diwedd y mae Lenz yn darganfod yr hyn y mae wedi bod yn edrych amdano.

'Mae'n bwysig iawn i glybiau yng Nghynghrair Cymru eu bod yn darganfod doniau ifanc yn lleol.

Ar hyn o bryd, ym Mhrifysgol Llundain, cynhelir arbrofion ar lygod i geisio darganfod a oes wirionedd yn yr honiad.

Y Rwsiaid yn darganfod Auschwitz.

Oherwydd mai proses yw, ofer felly yw edrych am nodweddion pendant o'r economi y gellir ceisio eu darganfod yn yr uwch-ffurffiant.

Doedd hi ddim yn beth anghyffredin darganfod cyrff pedwar neu bump o ddynion y pentre' ar ei rhiniog y bore wedyn.

Atyniad yr hanes yma, fodd bynnag, ydy gweld sut mae'n mynd ati i geisio egluro ymaith yr holl ffeithiau sy'n ei gondemnio ar ôl darganfod corff ei wraig â'i phen i lawr mewn casgen fawr o ddwr.

Milwyr yn darganfod erchylltra'r gwersylloedd mewn lleoedd fel Belsen a Buchenwald.

Ond rodd darganfod aur yn Awstralia yn nechrau'r pumdegau, megis yng Nghaliffornia ychydig o flynyddoedd ynghynt, yn ddigon i sbarduno miloedd ar filoedd i fentro ar y fordaith bell er garwed y peryglon enbyd.

Methasom yn lan a darganfod un, nes inni sylweddoli nad oedd y fath beth a ffenest siop yn bod yn y gymdeithas honno.

Daeth adref ar ddiwedd y prynhawn a darganfod ei wraig yn ei dagrau - "Be sydd cariad?" meddai yn ddiniwed.

Mynd am grwydr dros wal y coleg hefyd, a darganfod y wlad go iawn.

Syn yw darganfod cysylltiadau fel hyn ar ddamwain hollol.

Bu rhaid i awdur Pedeir Keinc y Mabinogi weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun pan geisiodd ef egluro fod darganfod baban yng Ngwent-is-coed a'i fagu yno yn digwydd tra oedd Rhiannon yn dioddef ei phenyd yn Arberth, a gorfu arno geisio ffordd i ddwyn y ddau hanesyn yn un.

Does dim eisio cloddio'n rhy ddwfn i'w darganfod.

Mae'r gweithwyr diwylliannol hyn yn darganfod bellach fod cyfyngiadau sylweddol hefyd ar fynegiant artistig yn economi%au marchnad rydd y Gorllewin.

Gan saethu am y tro olaf estynnod Attilio i fyny a darganfod, er dirfawr ryddhad iddo, ei fod yn medru gafael yn ei raff drachefn.

Mae prydferthwch i mi mewn arbrawf syml fel yna sy'n darganfod rhyw wybodaeth newydd.

Yn ôl y newyddion a ddarlledwyd gan y Lleng Ofod, y Madriaid oedd wedi ymosod arnyn nhw, ond y gwir amdani oedd mai cynllun bwriadol i feddiannu Anaelon a darganfod mwy am gyfrinachau Seros oedd hwn.

Cwis er mwyn darganfod a fyddai ychydig o hyfforddiant o fudd i chi.

Wedi darganfod dull o wneud rhyw fath o hufen iâ - rhewi llefrith a ffrwythau neu fisgedi siocled wedi eu cymysgu.

Roedd y werin wedi darganfod llawer ffordd o ddangos eu hatgasedd tuag at fyddin y Senedd a'r ffordd fwyaf effeithiol oedd yr ymgyrch gan y gofaint i'w gwneud hi bron yn amhosibl i gael eu meirch wedi eu pedoli.

Ac mae Gruff yn dal i gwyno fod y peli bach yna o bapur arian bob lliw mae o'n eu darganfod yn y gwely yn 'i gadw fo'n effro'r nos ac yn mynd i mewn i'w byjamas o.

Eu hunig obaith oedd cael eu darganfod gan batrol mentrus o'r fyddin.

Darganfod bedd Tutankhamun.

Ond yn fuan iawn mae Dafydd yn darganfod fod pris i'w dalu am ei ryddid ac er mwyn ennill arian i fyw mae'n ymuno â chriw o rent-boys, gan werthu ei gorff i unrhywun sy'n barod i dalu.

Dechreuodd weithio fel glanhawraig ffenestri gyda Dyff ond gadawodd Gwmderi ar ôl darganfod fod gan Dyff gysylltiadau efo'r byd tanddaearol.

Dipyn o syndod oedd darganfod ymhen hir a hwyr fod Miss Gwladys Lewis ('Anti Glad') neu J.Alun Roberts, yr Adran Hanes, yn medru siarad Cymraeg.

Penderfynais fynd i mewn yn ddistaw bach, a fues i ddim yn hir yn darganfod mai dim ond y fi oedd yn y plas.

Hithau hefyd wedi darganfod y fan lle y mae'r unigrwydd eithaf.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Darganfod nad 'mynydd' yn yr ystyr Gymreig oedd o'n blaenau, ond mynydd ar ben mynydd ar ben mynydd, rhai miloedd o droedfeddi o uchder.

Darganfod DNA.

Yr ydych yn ceisio darganfod sut y mae ansawdd yr amgylchedd yn amrywio o un lle i'r llall.

Ond, fel mae Justin yn darganfod, nid yw'r arth grisli yma yn arth arferol ac mae'n profi'n sialens iddo.

Fel yr âi amser yn ei flaen, dôi mwy a mwy o wybodaeth i sylw'r gweithgorau, a threulid peth amser yn darganfod pa waith a oedd eisoes wedi'i wneud.

Yn ddiweddar rydym yn dechrau sylweddoli mai dim ond gyda mwy o ddealltwriaeth o'n moroedd y gallwn ni obeithio darganfod llawn faint y difrod sydd wedi, ac sydd yn parhau i gael ei wneud.

Rym ni i gyd yn llawer rhy barod i chwilio am wendidau'n gilydd yn lle darganfod rhinweddau.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Y Rwsiaid yn darganfod Auschwitz.

Darganfod y firws a achosai AIDS.

Darganfod olew ym Môr y Gogledd.

Peth arall oedd yn newydd i un a fagwyd mewn tref Seisnigaidd fel Y Rhyl oedd darganfod fod llenydda'n rhywbeth byw i'r rhai a fagwyd mewn awyrgylch gwbl Gymraeg.

Gwefan i'r achos o addasu'r porwr Mozilla i Gymraeg, h.y. botymau 'Yn Ol' 'Chwilio' i helpu mewn gallu darganfod yn fwy uniongyrchol gwefannau a gwasanaethau gwe yng Nghymraeg e.e. chwilotwyr Cymraeg.

Nofel ar gyfer dysgwyr am ferch ifanc yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd i ganwr pop enwog.

Darganfod corff babi newydd yn y Marina, Abertawe.

Yn 1998 cynhaliodd Cyngor Sir Conwy adolygiad llawn o faint o le oedd ar gael i ysgolion er mwyn darganfod beth oedd yr angen o ran llefydd ychwanegol.

Yr hen ateb, fyddai, mai dysgu am y byd mae'r gwyddonydd; darganfod rheolau natur a thrwy hynny, ei reoli.

'Doedd Rhian ddim yn rhy hapus ar ôl darganfod fod Reg yn ffrindiau agos gyda Doreen a surodd ei pherthynas hi a'i thad.

Maen nhw'n dal i geisio darganfod yn union beth ydy'r sefyllfa gyfreithiol.

Myn rhai bod ogof a fu'n lloches iddo ynghudd rywle yng Nghraig Irfon a bod rhywun wedi darganfod olion lludw o'i dân wrth gloddio yng ngenau'r ogof.

Ychydig o'u hoffer sydd wedi'u darganfod yng Ngheredigion ac am yr ychydig enghreifftiau o gladdu dan gromlech sydd yn y sir, tybir mai i gyfnod diweddarach y perthynant.

Ni theimlai gymaint â hynny o golled ar ôl ei gyfeillion chwaith, hyd yn oed pan ddeallodd bod posibilrwydd y caent eu darganfod gan y fyddin Brydeinig.

Rhaid darganfod ffordd o drechu dylanwad Ymneilltuaeth trwy dadogi pob drwg arni, ebe Beelzebub (tt.

Yr oedd yn llawenydd i mi eich bod wedi darganfod gwreiddiol Scren Heddwch Islwyn, rhaid imi gyfaddef na wyddwn i ddim am Jane Simpson ac nid oes gair amdani yn y Biographical Dictionary sydd gennyf.

Dyma, yn y bôn, yw nod astudio 'deallusrwydd artiffisial' - darganfod dulliau o hunan-ddysgu a hunan-ddeallusrwydd a'u rhoi ar waith mewn cyfrifiadur.

Ni allai uniaethu â dyn a oedd yn darganfod ei ieuenctid yn ganol oed.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae cyffuriau gweddol effeithiol tuag at hwnnw wedi eu darganfod ond, serch hynny, mae'n hanfodol fod y frech hefyd yn cael sylw addas.

Doedd dim sôn am yr holl lwch folcanig amryliw - y llwch lle'r oedd Meic ac Elen wedi darganfod yr hen gledrau a arweiniai at fynedfa gudd Craig y Lleuadau.

Bydd y capten Richard Smith yn darganfod yn ystod y dyddiau nesaf a fydd yr anaf i'w ysgwydd yn ei gadw fe mâs am fwy nag un gêm.

Wedi mynd trwy danchwa'r dosbarth Ysgol Sul hwnnw yn Seilo (ac wedi darganfod The Future of an Illusion, o waith Freud yn llyfrgell y Coleg Ger y lli ryw ddeuddydd cyn Sul y danchwa!), 'doedd dim rhaid i mi wrth na Rudolf Bultmann na Phaul Tillich na'r un enaid arall i'm hannog i ddadfythu'r Testament Newydd.

yn wir, ar adegau yr oedd yn amhosibl darganfod unrhyw batrwm i chwarae cymru.

Darllenwn eto hanes y gwragedd ar fore'r Atgyfodiad yn mentro allan i wersyll y gelyn, a darganfod fod y gwersyll yn wag.

Aeth Derek ati i geisio darganfod pwy oedd ei dad a chafodd ef a'i hanner chwaer, Carol, sioc fawr wrth ddarganfod mai'r cyn-gynghorydd Herbert Gwyther oedd ei dad.

Newyddion gwell ydi fod gwyddoniaeth fodern wedi darganfod nad oedd yr hen AStecs a Sbaenwyr yna ddim yn siarad cymaint â hynny o lol wrth ddweud mai siocled ydi'r petrol sy'n mynd i roi nwydau rhywun mewn ofyrdreif.

Darllenai ef gywyddau Beirdd yr Uchelwyr, nid yn unig er mwyn darganfod safonau gramadeg, ond hefyd o bleser pur yng nglendid eu hiaith, yng nghynildeb eu cystrawennau, ym mherseinedd eu canganeddion.

Credai hefyd - fel y dywedodd wrthyf droeon - ei fod wedi darganfod y gymdeithas ddelfrydol ymysg ffermwyr Sir Benfro - lle'r oedd cyd-weithio a chyd-lawenhau, heb sôn am gyd-ddioddef, wedi ei gwneud yn gymdeithas glos, lawen a chydweithredol.

Dyna'r rheswm paham y buwyd yn chwilio am ddulliau newydd o atgynhyrchu llyfrau a phaham y cafodd yr argraffwasg y fath groeso gorawenus wedi i ddynion ei darganfod a'i datblygu.

Daeth laserau cyflwr solid bell ffordd ers eu darganfod ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Manylir ar y math cwestiynau y dylid eu gofyn er mwyn darganfod ansawdd profiadau'r aelodau.

Mae angen darganfod beth fydd effaith y gystadleuath rhwng y ddwy raglen," meddai.

Oddeutu'r un amser daeth si fod y Siapaneaid wedi darganfod set radio o waith rhai o'r carcharorion.

Un o'm prif bleserau yw darganfod planhigion prin yn eu cynefin yng Ngwynedd a thynnu eu lluniau.

Erbyn hyn mae 'na deulu o'r adeileddau hyn wedi cael eu darganfod ac mae'r maes erbyn hyn yn llawn 'buckyballs' neu beli bucky.

Er mwyn diogelu dyfodol y Boda Tinwen fel aderyn magu ung Nghymru, mae'n bwysig iawn bod gwaith y Gymdiethas er Gwarchod Adar yn parhau, fel y gellir darganfod anghenion ehangach yr aderyn gwych yma, a gweithredu er mwyn cynyddu'r llwyddiant mewn magu.

Syfrdanol, ac mae llawer o waith ymchwil wedi ei wneud i drio darganfod sut yn y byd mae'r adar yn medru gwneud y fath beth.

Yn aml iawn maent yn darganfod mai un o'r rhesymau pennaf dros ddirywiad ydi dinistrio cynefin yr dar, ac felly dinistrio eu bwyd a'r llefydd i nythu e.e mae llawer i hen ddarn o dir a llwyni toreithiog o ysgallen ynddo yn nefoedd i'r nico.

Mae'r grwp Seryddiaeth yn Adran Ffiseg Coleg y Brifysgol yng Nhaerdydd wedi darganfod bod dwsinau o alaethau eraill, llai amlwg, yn y casgliad hwn hefyd.

Yr hyn wnaeth inni feddwl fod rhywun heblaw ni wedi bod yno'n ddiweddar oedd darganfod botwm pren yn y twnnel, heb Iwch na dim wedi glynu ynddo .