Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darlith

darlith

Fel y traddodais eisoes mewn darlith Eisteddfodol, daeth ffermwyr yn fwy dibynnol ar ynni o oleu a nwy nag ar ynni'r haul.

Disgwylir i chwi ddod i bob sesiwn a darlith a chyrraedd yn brydlon.

Ar ôl hwnnw, roedd yna ddynas - wedi ei gwahodd yno'n arbennig - yn rhoi darlith ar ddiogelwch, a'r dulliau y dyla hen bobol fabwysiadu ar gyfar eu hamddiffyn eu hunain rhag gwylliaid.

Fe fu'n cynnal Dosbarth Allanol yn Nhalgarreg am flynyddoedd, ac fe fu'n arferiad ganddo draddodi 'darlith haf' ar ben yr hen odyn galch ar draeth Cwmtydu, bob mis Awst.

Pan fu farw yr oedd newydd lunio darlith y gofynnwyd iddo ei thraddodi yn Nenmarc.

Sawl tro y ces i fy rhoi yn fy lle wedi i mi wneud sylwadau fel, "Ddim yn meddwl llawer o 'Pobl y Cwm' heno nhad," mi gawn yr atebiad "Pa bryd wyt ti am sgwennu pennod?" Wiw i mi chwaith ddweud fod actor neu actores ddim yn dda, neu mi fyddwn yn cael darlith am gynhyrchu drama deledu o'r top i'r gwaelod.

Rhoi darlith ar gelfyddyd a bywyd Prydain i'r athrawon gan egluro'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ymysg pethau eraill.

Cofiaf am rai o'r darlithoedd gwych a gaem yn achlysurol, fel darlith AOH Jarman ar Iwerddon, a darlith H.Francis Jones ar W^yr Llangwm a'r Rhyfel Degwm.

Un dydd Gwener ar ddiwedd darlith olaf y bore dyma JE Daniel, ar ôl gorffen darlithio ar Athrawiaeth Gristnogol, yn dod ataf ac yn gofyn imi fynd gydag ef y noson honno i annerch cyfarfod y Blaid yn festri Capel Maes y Neuadd, Trefor.

Fe fyddaf yn manylu ar ei flynyddoedd yn Llanrhaeadr mewn darlith yno ymhen rhyw ddeng niwrnod - os gallaf sgrifennu'r ddarlith mewn pryd - ac felly fe fodlonaf ar amlinellu'r hanes yn unig yma.

Daeth Dylan Phillips ac Arwel Jones i Gaernarfon i draddodi darlith rymus ym mis Mehefin, ac yn wir roedd ffigyrau Dylan a'i ddadansoddiad yn ddigon i godi'r felan ar unrhyw un.

Yr oedd sgwrs yn mynd yn beth bratiog unsillafog wrth i bawb siarad yng nghlyw ei gilydd a'u llygaid at y gornel, a lle byddai cynulleidfa mewn cyngerdd a drama a darlith, dim ond cnewyllyn o ffyddloniaid oedd yn dal i ddod, a 'lle byddo dau neu dri' yn cael ei ddyfynnu yn amlach ac amlach.

Wedi dod i Fachynlleth ydoedd i draddodi darlith ar Owain Glyndŵr yn yr hen Senedd-dy.

Dechrau ar gwrs arall- darlith oedd ar waith yr Adran, rhyw gawl aildwym o'r hyn a gawsom ym Matlock llynedd gydag ychydig o liw neu flas tramor wedi'i roi ynddo i'w wneud yn fwy llyncadwy.

Fy mraint i yn ystod y chwarter canrif diwethaf fu cael rhoi ar gof a chadw ronyn o'r etifeddiaeth gyfoethog yn Uwchaled a'r cyffiniau, ac, mewn darlith, ysgrif a chyfrol i rannu'r trysor hwn ag eraill.

Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.