Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darllenid

darllenid

Darllenid cofnodion y Cyngor gyda'u hatodiadau helaeth o adroddiadau ac ystadegau gan bobl ymhobman ym myd gwleidyddiaeth.

Yn ôl pob tebyg, darllenid y bucheddau hyn ar wyl y sant(es).

'Darllenid ar y bwrdd bob gair o'r hen "Amserau%, a mawr oedd y dyddordeb a gymerid yn "Llythyrau 'Rhen Ffarmwr", ...

Diau i'w ddull o ysgrifennu effeithio ar lawer un arall, oherwydd darllenid ei weithiau, yn erthyglau a llyfrau, gan bob llenor o Gymro yn gyson am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Yn ddiweddarach perswadiwyd Roger Edwards i sefydlu cyfarfodydd llenyddol lle darllenid, y dadleuid, ac y cystadleuid, cyfarfodydd a fu'n batrwm i gyfarfodydd cyffelyb yn y wlad o gwmpas.