Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datblygodd

datblygodd

Ac i brif arweinydd y mudiad, John Henry Newman, yn arbennig, datblygodd hwn i fod y cwestiwn pwysicaf oll.

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Yn y deng mlynedd diwethaf datblygodd archaeoleg i'r graddau fel y gellir yn awr ei chymharu ag astudiaethau cyfatebol ar y tir.

Datblygodd hi i fod yn un o golofnau'r pwyllgor a buan iawn y daeth yn gadeirydd.

Yn sgîl hyn datblygodd dealltwriaeth dawel rhyngof i a Thalfan.

Mewn cyfres bwysig o'r enw Y Byd Hirgrwn (chwaer raglen The Union Game a gynhyrchwyd gan BBC Cymru ar gyfer BBC Two), bu Huw Llewelyn Davies yn olrhain hanes rygbi ac yn amlinellu sut y datblygodd y gêm o fewn ffiniau gwleidyddol a diwylliannol sawl gwlad.

Nid yw'n ddamweiniol mai yng ngwledydd mwyaf amlieithog Ewrop y datblygodd yr unbeniaid goleuedig eu cynlluniau uchelgeisiol am addysg gyffredinol i'r werin.

Datblygodd perthynas agos rhwng Reg a Diane a phriododd y ddau yn 1999.

Datblygodd gwaith yn y chwarel yn fywoliaeth ar wahân i ffemmio i'r rhan fwyaf, er i garfan fechan ffemmio'r tyddynnod a gweithio yn y chwarel yn ystod y dydd.

Bu llawer o adeiladu, a datblygodd pentref hollol newydd yn Nhrefor, lle gynt y bu'r Hendre a'i hychydig ffermydd a'i harfer o adeiladu cychod.

Datblygodd athrawiaeth ail-adrodd (recapitulatio = atsymio prif benawdau (re-capitulatio < capitulum = pennod, pennawd, pen bach; bychanig caput -itis = pen).

Ar Awst 1 datblygodd yn rhyfel ewropeaidd wedi i Rwsia gefnogi Serbia, a'r Almaen gefnogi Awstria.

Datblygodd ymgeision i ddiogelu llongddrylliadau nid yn gymaint oherwydd polisi systematig ond yn hytrach fel ymateb i wahanol argyfyngau.

Datblygodd cyfeillgarwch agos rhwng Lisa a Karen yn sgil marwolaeth Fiona ond chwalwyd y cwbl wrth i Lisa gyfadde mai Steffan oedd tad ei phlentyn.

Datblygodd y tri'n bur wahanol i'w gilydd.

Mewn ymerodraethau heb genedl lywodraethol gref, datblygodd y gyfundrefn addysg er budd y cenhedloedd bychain.

Datblygodd gwyr rygbi Lloegr yn uned rymus tu hwnt gydau blaenwyr aruthrol o bwerus.

Datblygodd ffrwgwd arall ym mywyd Llew - y tro hwn rhyngddo ef a Hywel a bu bron i Hywel farw o'r herwydd.

Datblygodd y gystadleuaeth gyda'r blynyddoedd gan ofyn i'r clybiau gyflwyno a thrafod llyfr rhagor na dysgu ffeithiau moel am y gyfrol.

Cyn y gellir esbonio'r diddordeb hwn, y mae'n ofynnol inni fwrw golwg yn gyntaf ar y modd y datblygodd swyddogaeth gweinidog yn yr ardal ym mlynyddoedd cynnar y ganrif.

Yn ystod ei chyfnod yn y garej datblygodd perthynas agos iawn rhyngddi hi a Derek.

Yn naturiol, 'roedd Diane am waed Reg ar y cychwyn ond datblygodd y casineb yn gyfeillgarwch wrth i'r gwir am Emma a'i chyffuriau ddod i'r amlwg.

Nid ar unwaith yr enillwyd hyder gan na darllenwyr nac ysgrifenwyr pan ddaethpwyd i gyfansoddi stori%au ysgrifenedig, ond datblygodd llenorion Ffrangeg diwedd y ddeuddegfed ganrif ddull ymwâu themâu ac anturiaethau a dyfodd yn ddyfais naratif tra chywrain yng ngweithiau rhyddiaith y ganrif ddilynol.

Yn ystod y rhyfeloedd hyn yn y bymthegfed ganrif y datblygodd cenedlaetholdeb Seisnig.

Datblygodd y ddrama gyda'r blynyddoedd a'r mwyafrif o'r clybiau yn cyfranogi.

Dechreuasant gydag ymlyniad wrth y goron Seisnig (a barhâi yn Ffrangeg ei hiaith, fel y gwnâi'r gyfraith Seisnig), ond o hyn y datblygodd ymlyniad wrth Loegr.

Datblygodd Gittins y cymeriadau hyn yn llwyddiannus, gan greu brithwaith bywiog o fywyd dinas wedi iddi nosi.

Ers ei ffurfio ym 1992 datblygodd alfresco i fod yn o gwmniau mwyaf sefydlog y sector annibynnol yng Nghymru.

Datblygodd y busnes i fod yn garej lwyddiannus Cwmderi.

Ar ôl yr undeb rhwng Lloegr a'r Alban y datblygodd y syniad Prydeinig y rhoddodd yr Ymerodraeth fri mawr arno.

O ddechrau cymharol ddi-nod, datblygodd y tîm i fod y gorau yn Ne Cymru ac, fel Dinas Caerdydd, fe lwyddwyd i gipio Cwpan yr FA o ddwylo clybiau Lloegr am y tro cyntaf drwy guro Arsenal yn Wembley ym 1927.

YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Daeth Cassie i gysylltiad gyda rhieni mabwysiadol Steffan ac o dipyn i beth datblygodd perthynas agos rhwng Cassie a Huw, tad mabwysiadol Steffan.

Er mwyn hwyluso a rhoi ffurf i'r broses hon, datblygodd y Grŵp Prosiectau Arbennig o fewn Cymorth i ferched yng Nghymru, sy'n cynnwys gweithwragedd llochesau menywod sy'n gweithio yn maes tai, a gweithwraig tai CiF nifer o fodel-gytundebau.

Canys nid trwy gyfres o ymweliadau goruwchnaturiol y datblygodd y byd i'r hyn ydyw heddiw, ond trwy broses naturiol hir y mae'r bydysawd yn rhan ohono.