Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datgelu

datgelu

Ni ellir datgelu hynny yma.

Ni fyddai dreifwyr yr SSB (tripiau) yn fodlon datgelu eu gwybodaeth i'r un o'r dreifwyr eraill.

Ar faterion egwyddorol o bwys, dewisodd newyddiadurwyr fynd i garchar yn hytrach na datgelu ffynhonnell eu gwybodaeth.

Dyma rywbeth newydd yn Gymraeg, er nad yw'r teitl yn datgelu hynny, sef llyfr ar Ieithyddiaeth, pwnc nad yw wedi cael llawer iawn o sylw yng Nghymru hyd yma, ac y mai'n dda ei gael.

Yn yr un modd, y mae'r ffigurau am stociau, dyledwyr ac arian mewn llaw yn datgelu llawer wrthym am y busnes.

Mae pob un o'r pymtheg "cam", neu'r mannau y cyfeirir atynt, yn datgelu ei ran mewn hanes a chwedl, a hynny'n aml drwy ail-greu'r gorffennol yn syfrdanol o fyw gyda thechnegau sŵ'n a golau.

?' 'Ddim rwan, Bob,' meddai Lisa, gan ysgwyd ei phen yn bendant a dyheu am fedru rhoi rhyw arwydd i'r gŵr ifanc i beidio â datgelu unrhyw gyfrinachau.

Ar y rhaglen bydd Annette ifanc yn datgelu bod yr hynafgwr Towyn wedi gofyn yn chwareus iddi ei briodi.

Y mae llyfrau ac erthyglau godidog y Parchedig Ddr Isaac Thomas wedi datgelu'n glir gwrs y cyfieithu, ac y mae'n dda gennyf allu dibynnu yma ar ei gasgliadau ef, fel y bydd ysgolheigion yn sicr o wneud am genedlaethau i ddod.

Yr wythnos hon bydd Alison yn derbyn llythyr yn datgelu bod Elin wedi cael ei gwahardd o'r ysgol am smocio canabis.

Cytunwn yn llwyr â'r Dr Rachel Bromwich fod tystiolaeth y Trioedd hynny lle cyfeirir at Drystan yn hynod bwysig, ond rhaid cofio nad yw cyfeiriadau o'r fath o angenrheidrwydd yn datgelu gwybodaeth am fwy nag un episod neu elfen stori%ol: ni allwn gymryd yn ganiataol eu bod yn adlewyrchu gwybodaeth am chwedl go iawn.

Y mae'r dadleuon ysgrythyrol a ddefnyddiai yn datgelu'n glir mor ddwfn oedd ei wybodaeth Feiblaidd.

Os oes cyfrinach gen ti, paid ai datgelu.

Ni fyddwch yn datgelu'r fath wybodaeth (ar wahan i pan fo hynny yn rhan o drefn briodol eich dyletswyddau) i unrhyw berson, cwmni, neu gyfundrefn arall.

Monica Lewinsky yn datgelu iddi gael perthynas rywiol â Bill Clinton, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac yntau yn gwadu'r honiad.

Rhyw fagu llwynog oedd hynny - datgelu gwybodaeth i arall, ond byddai hogiau gorsaf Caernarfon yn barod iawn i'm dysgu, a dysgais lawer oddi wrthynt.

Yn ol y darlun hwn mae natur yn sefyll i'r naill ochr yn datgelu ei chyfrinachau un ar ol y llall.