Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datgymalu

datgymalu

Clwstwr o ffrwythau mewn difri yw pob mwyaren, ffurf sydd wrth fodd y mân deloriaid sydd yn datgymalu'r swigod bach du fesul un tra'n cymryd seibiant ar eu taith mudol ym mis Medi.

Dyna sy'n digwydd wrth i'r wy gael ei dwymo - mae'r pelenni yn datgymalu ac mae bondiau hydrogen yn gludio'r rhaffau wrth ei gilydd i ffurfio rhwydwaith eang.

Heb arweiniad a doethineb y rhai hþn, byddai'r drefn gymdeithasol o fewn yr haid yn datgymalu, a hyd yn oed yn dymchwel.

Yn hytrach na mynd at y gwneuthurwr a thalu drwy'ch trwyn, gwell mynd i ganolfan datgymalu ceir gyda'r mesuriadau, a thalu llawer yn llai.

Un canlyniad i hyn yw fod perygl datgymalu'r rhwydwaith o athrawon cynhaliol a sefydlwyd dros nifer o flynyddoedd mewn awdurdodau addysg lleol.

Mae Gwynedd wrthi ers tro byd yn datgymalu ei hun a gwared a gwasanaethau oedd ar gael.