Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datgysylltiad

datgysylltiad

Ceir ystadegau yn adroddiad y Comisiwn Datgysylltiad (fel y gelwid ef yn ddigon hwylus) ar gyfer y gwrandwyr ond rhybuddir ni na allwn ddibynnu arnynt.

Ond treuliodd Herber ei huodledd i ddefnyddio hanes Penri i gadarnhau'r ymgyrch Datgysylltiad ac i gyhoeddi hefyd fod Penri 'yn un o'r gwladgarwyr penaf a fagodd Cymru erioed'.

Yr oedd brwydr Datgysylltiad yn anochel ac yn brif nod Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth, a'r degwm yn sbardun.

Yr oedd Penri, mae'n amlwg, yn tyfu'n ffigur a wnâi fasgot rhagorol i bleidwyr Datgysylltiad a chefnogwyr delfrydau rhyddid y Blaid Ryddfrydol!

Dewch gyda mi i gyfnod llawer nes atom, pan oedd adfywiad cenedlaethol Cymru yn hawlio Datgysylltiad yr Eglwys Wladol yn etholiad cyffredinol 1880.

Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.

Bu gwrthgymreigrwydd esgobion a phersoniaid yr Eglwys Wladol a'u gelyniaeth i'r Gymraeg yn rhan fawr o'r ddadl o blaid Datgysylltiad, yn rhan hefyd o ddadl y Degwm.