Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datod

datod

Hefyd bod Ruth, geneth arall o blith 'plant' Pengwern, a Nolini ac Enomeris, wedi gweld Philti yn trin cornwyd oedd gan Pengwern ar ei glun, ac wrth gwrs fod ei ddillad wedi eu datod iddi fedru gwneud hyn.

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

Nid yw'r glud yn un cryf iawn, mae tua deg gwaith gwannach na bondiau cemegol arferol felly mae'n eitha' hawdd datod y belen protein o'i siap.

Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef.

Amser cinio cafwyd cyfle i dynnu'r sgis, datod yr esgidiau, sythu 'nghoesau, ac, wrth gwrs, diod poeth o 'Le Mumba' - siocled poeth a brandi!

Yn y diwedd r'on i wedi datod y cwbl, a sylweddoli wrth dynnu'r peth oddi wrth ei gilydd mai hen ddoli glwt r'on i wedi ei cholli rhai wythnosau cyn y Nadolig oedd hi.

'dwn i ddim fyddwch chi?" Roedd Laura Elin ar ei deulin ac wrthi'n brysur yn datod ei esgid chwith.

Dyna'r creaduriaid llonydd yn cnoi'r cil yn dawel tra byddwch yn datod y cadwyni o'u gyddfau.