Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datrys

datrys

Dim ond trwy geisio amgyffred yn ddeallus a chyda chydymdeimlad y gallwn obeithio helpu y byd sy'n datblygu a cheisio datrys problemau a ddaw efallai i ran pob un ohonom.

Yng ngeiriau Leibnitz, ei nod yw datrys "Cryptogram Natur".

Felly fe gawn bobl eisiau mabwysiadu egwyddorion Iesu Grist neu gymhwyso ei ddysgeidiaeth at broblemau cyfoes yn y gobaith y gwnaiff hynny eu datrys.

Nofel ar gyfer dysgwyr am newyddiadurwraig yn ceisio datrys dirgelwch.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Mae eu hawydd i ddarganfod pethau drostynt eu hunain wedi eu harwain i beryglon mawr - ond weithiau bu'n gyfrwng datrys dirgelwch hefyd.

'Yn aml iawn, mae chwilio ar y We yn Gymraeg wedi bod yn broblematig,' meddai Elin Haf Gruffydd Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 'ac mae'r Chwilotydd yn datrys y broblem mewn ffordd ddyfeisgar a syml.

Mae'r papur gwyn hefyd yn gofyn am syniadau ar sut y gellid datrys y problemau sy'n bodoli.

Byddai athro, er enghraifft, yn siarad â'i gyd-athrawon am broblemau cyffredinol, gan grybwyll y ffaith y byddai rhyw ffurf ar gynllun nodau graddedig o gymorth i'w datrys.

Damwain mae'n siwr ydy'r ffaith fod prif gymeriadau'r ddwy nofel yn ferched ifanc, hyderus a'u bod yn ceisio datrys dirgelwch o ryw fath.

Mae gen i ryw falchder mod i wedi datrys problem nad oedd neb arall yn medru ei datrys.

Nofel dditectif yn y gyfres Datrys a Dirgelwch.

Yn ein sefyllfa bresennol fydd hunan-lywodraeth yn datrys dim.

'Ni cherddaf....Ni chwarddaf' yn dyfnhau negyddiaeth y nos i'r bardd yn ddwys iawn, a hynny'n cael ei datrys braidd yn gynganeddus mewn bodlonrwydd anuniongyrchol 'draen...heb wrid y rhos,' 'gweaf....gwyw'.

"Dyna Rex wedi datrys dirgelwch y dillad," ebe Louis wrtho'i hun ar ôl troi'n ôl am y tŷ.

Ym myd natur, nid yw'r holl DNA yn cael ei fesur er mwyn datrys rhyw broblem benodol.

Dywedodd fod problemau yng Nghymru ond na ellid eu datrys heb gyfrifoldeb amdanynt.

Treuliwyd misoedd yn datrys y gwahanol broblemau - cyllid, argraffu, golygu, cyfraniadau.

Dywed nad yw Dwynwen yn rhwystro godineb a chyfeiria at yr arferiad o bererindota i Ynys Llanddwyn er mwyn datrys problemau serch.

Faswn i feddwl nad trwy anfon lluoedd arfog yno y mae datrys problem y trueiniaid hyn ond trwy of alu nad yw arfau rhyfel yn mynd yno.

Ei hamcan oedd ceisio datrys y problemau a wynebai'r pentref, ac yn fwy na dim, ceisio ei gwneud yn fwy deniadol ac ymarferol i bobl if ainc fod eisiau aros a setlo yn yr ardal.

PENDERFYNWYD hysbysu Cyngor Cefn Gwlad Cymru na fyddai ychwanegu camau biwrocrataidd i'r broses gynllunio yn datrys problem dylunio.

Fel esiampl o broblem i'w datrys, dychmygwch fod yn rhaid teithio o amgylch Cymru i ddosbarthu'r rhifyn hwn o Delta, ac mai dim ond un cerbyd sydd ar gael i wneud y gwaith.

Mae gwyddonwyr modern wedi datrys dirgelwch y dynion a droes yn fleiddiaid - caed yr ateb mewn rhywbeth mor ddiniwed â gwenith, haidd a barlys.

Fe gre " ir 'byd' newydd ym meddalwedd y cyfrifiadur - byd lle mai'r amgylchfyd yw'r broblem y mae angen ei datrys, ac esblygiad yw'r broses o ddarganfod yr ateb.

Datrys cyfyng-gyngor Enid a chywiro bywyd Geraint yw mater y 'rhamant'; dyna bwnc y drydedd adran y mae'r ddwy flaenorol wedi bod yn arwain ato.

Gyda thanciau a bomiau y buont yn ceisio datrys hyn.

Serch hynny ystyriai mai'r Cyngor ddylai geisio datrys y sefyllfa yn hytrach na gweithrediad personol ganddo ef.

Gwaith grŵp Astudiaeth annibynnol gyda chefnogaeth Gwaith project Gwaith arbrofol Datrys problemau Dysgu yn Gymraeg

Hawdd yw datrys y dirgelwch yma pan edrychwn ar drawsdoriad o'r Fro sy'n dangos i ni fod y creigiau wedi cael eu plygu fel bod Cefn Bryn ar ben anticlin a Phorth Einon mewn synclin.

Yn ffodus nid oes neb wedi llwyddo gan fod holl gymhlethdodau Gwyddbwyll yn fwy nag a all meddwl dyn eu datrys.

Dydy datrys pob pôs ddim yn waith anodd bob amser.

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.

Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.