uwchlaw'r mor) o Durrboden ger Davos i S-chanf (ynganer tsi-tsianff) yr haf blaenorol, fodd bynnag.
Oddi yno yr oeddwn wedi cychwyn am hanner awr wedi saith y bore, gan newid yn Filisur ar gyfer Davos a dal bws bychan oddi yno i Durrboden yn y Dischmatal.
Uniaith Almaeneg - iaith y visitors - oedd y rhybudd llefrith-ar-werth yn ymyl hafoty Funtauna, ond y bwlch ydyw'r ffin rhwng tai pren Davos a thai carreg yr Engadin, rhwng Almaeneg unigryw y Walseriaid a'r ffurf ar Reto-romaneg a elwir mor briodol yn Lladin.